Sut i ddefnyddio'r safle hon
Gallwch bori adrannau gwahanol y Wefan Iechyd a Lles yng Nghefn Gwald trwy ddefnyddio'r bar offer ar y llaw chwith, a/neu drwy glicio ar y dolenni o fewn y testun. Os hoffech wybod pa bynciau sy'n dod o dan bob adran, ewch at fap y safle. Os byddwch yn mynd ar goll ar unrhyw adeg, bydd y botwm hafan yn mynd â chi 'nôl at dudalen agoriadol y wefan.
Os am chwilio Gwefan Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad, defnyddiwch y botwm Chwilio'r Wefan. Os oes gennych air neu gymal mewn golwg (e.e. straen, anorecsia ac ati), bydd y modd chwilio hwn yn defnyddio Google i ddod o hyd i'r tudalennau mwyaf perthnasol o fewn Gwefan Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad.
Mae cyswllt rhwng Gwefan Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad a bas data y gellir ei chwilio am fanylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth bellach neu gymorth ar faterion penodol. O fewn adrannau penodol, gallwch glicio ar y botwm Gwybodaeth Gysylltiadau er mwyn cyrraedd y bas data ar asiantaethau. Fel arall, gallwch chwilio'r bas data trwy glicio ar y botwm Chwilio am Asiantaeth ar y bar offer uchaf:
Chwilio am Asiantaeth
Chwilio am Asiantaethau A-Y
Os ydych yn gyfarwydd ag enw'r asiantaeth yr hoffech gael manylion cyswllt ar ei chyfer, cliciwch ar y llythyren berthnasol er mwyn gweld rhestr o'r holl asiantaethau o fewn y bas data sy'n cychwyn gyda'r llythyren honno - gyda lwc, bydd yr un sydd gennych mewn golwg yn ymddangos. Cliciwch ar asiantaeth o fewn y rhestr i gael y manylion cyswllt.
Chwilio yn ôl math o Asiantaeth
Gallwch ddewis math o asiantaeth (e.e. ysbytai, fferyllfeydd ac ati), ac un neu fwy o'r rhestr o Siroedd yng Nghymru wledig, yna cliciwch "Iawn" i weld rhestr o asiantaethau perthnasol.
Hygyrchedd
Wrth ddylunio'r wefan hon, un o'r ystyriaethau oedd gofalu ei bod o fewn cyrraedd pawb. Mae'n defnyddio XHTML a CSS dilys. Fe'i phrofwyd hefyd yn erbyn canllawiau'r "Web Accessibility Initiative", gan ddefnyddio teclyn Bobby, a gwnaethpwyd pob ymdrech i ofalu ei bod yn cydymffurfio â safonau AA standards, sef y safonau uchaf posibl.
Yn y bar offer ar ochr chwith y dudalen, ceir hyd i ddewislen gwympo sy'n rhoi cyfle i chi newid maint yr ysgrifen, neu os ydych am weld fersiwn testun yn unig o'r wefan. Gallwch hefyd newid maint yr ysgrifen trwy ddefnyddio'r offer sy'n rhan o'ch porwr we. (e.e. Gweld Dewislen > Maint y testun > Maint mwy). Mae'r bar offer hefyd yn cynnwys cyswllt i'r map safle er mwyn cyrraedd pob adran o'r wefan yn hawdd.
Gallwch newid i fersiwn Gymraeg y wefan ar unrhyw adeg trwy glicio Cymraeg.

