Rhwng y Cynfasau
Mae penderfynu ar yr amser iawn i chi gael cyfathrach rywiol ("rhyw") am y tro cyntaf, yn benderfyniad pwysig i'w wneud, ac mae angen meddwl amdano am dipyn.
Wrth i chi sgwrsio gyda'ch ffrindiau, mae'n debyg eich bod yn cael yr argraff fod "pawb wrthi". A dweud y gwir, dim bwys beth mae'n nhw'n ei ddweud, nid yw'r rhan fwyaf o blant dan 16 oed yn cael rhyw, ac mae llawer o bobl ifanc yn aros neu eu bod yn llawer hyn cyn penderfynu mai dyna'r amser iawn iddyn nhw.
Trosedd yw cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gydag unrhyw un ar wahân i oedolyn sydd dros yr oedran cydsynio cyfreithiol, ac sydd wedi cytuno o'i wirfodd - gweler Rhyw - Y Gyfraith am fwy o wybodaeth.
Dylai unigolyn ond cael rhyw am y tro cyntaf pan mae'n teimlo'n barod. Ni ddylech deimlo unrhyw bwysau i gael rhyw, a ni ddylech chi roi pwysau ar unrhyw un arall i gael rhyw ychwaith. Trosedd yw gorfodi rhywun i gael rhyw yn erbyn ei wirfodd - ewch at yr adran Trais Rhywiol a Thrais am fwy o wybodaeth.
Nid rhyw yw'r unig ffordd y gall dau berson ddangos eu serch at ei gilydd - os nad ydynt yn teimlo'n barod i gael rhyw, gellir dangos eu teimladau er enghraifft trwy gusanu, cofleidio neu dylino ei gilydd.
Fodd bynnag, os ydych chi a'ch partner wedi penderfynu eich bod chi'ch dau yn barod i gael rhyw, yna mae'n hanfodol eich bod yn cytuno ar ba ddull atal cenhedlu rydych am ei ddefnyddio. Mae rhyw ddiogel yn golygu eich bod yn ymwybodol ynghylch y risgiau sy'n bodoli. Mae hefyd yn golygu cymryd camau i leihau'r tebygolrwydd ohonoch chi neu'ch partner yn dal neu'n trosglwyddo haint a drosglwyddir yn rhywiol, neu'r posibilrwydd ohonoch chi neu'n partner yn beichiogi.
Trwy ymarfer rhyw ddiogel, byddwch yn gallu mwynhau rhyw mewn ffordd sydd hefyd yn diogelu eich iechyd a'ch lles. Ac, oherwydd bod rhyw ddiogel yn lleihau'r risg, gallwch ymlacio a mwynhau rhyw fwy fyth.
Gall amheuon ynghylch eich rhywioldeb godi ar unrhyw adeg yn ystod eich bywyd, ac i rai pobl mae darganfod eu rhywioldeb yn gallu bod yn gyfnod dryslyd ac ofnus, a byddwch yn teimlo'n unig ac ynysig efallai. Ewch at yr adran Rhywioldeb am fwy o wybodaeth ac am fanylion cyswllt mudiadau fydd efallai'n gallu rhoi gwybodaeth bellach neu gymorth i chi.

