Y bilsen gyfunol
Beth yw hwn a sut mae'n gweithio?
Yn aml, cyfeirir at y bilsen gyfunol fel "y bilsen".
Mae'n cynnwys dau hormon - oestrogen a phrogestin. Mae'n gweithio yn bennaf trwy atal ofarïau menyw rhag ryddhau wy bob mis. Mae hefyd yn achosi newidiadau yng nghorff y fenyw sy'n ei wneud yn anodd i hadau fynd i'r groth, neu i'r groth dderbyn wy wedi'i ffrwythloni.
Sut mae defnyddio nhw?
Mae mathau gwahanol o'r bilsen gyfunol ar gael:
- Y bilsen 21-diwrnod
Mae'r fenyw yn cymryd un bilsen am 21 diwrnod, ac yna am y saith diwrnod nesaf ni chymerir pilsen. Mae pob pilsen yn cynnwys yr un faint o hormon. Yr enw ar y pils hyn yw "pils monoffasig" a nhw yw'r math mwyaf cyffredin. - Pils ffasig
Mae dwy neu dair adran o bils o liwiau gwahanol yn y pecyn hwn. Mae'r fenyw yn cymryd un bilsen bob dydd am 21 diwrnod, ac yna dim pilsen am y saith diwrnod nesaf. Mae pob pilsen yn cynnwys maint gwahanol o'r hormon, felly mae'n rhaid eu cymryd yn y drefn iawn. - Pils Bob dydd
Mae angen cymryd pilsen bob dydd am 28 diwrnod heb doriad rhwng y pecynnau. Mae 21 o bils gweithredol, a saith pilsen anweithredol nad oes unrhyw hormonau ynddynt. Mae'n rhaid cymryd y pils hyn yn y drefn iawn.
Ble maent ar gael?
Meddygon Cynllunio Teulu, nyrsys a'r rhan fwyaf o Feddygon Teulu.
I gychwyn, byddwch yn cael cyflenwad tri mis i weld a yw'r bilsen yn siwtio chi. Ar ôl hynny, bydd angen mynd yn ôl ar y meddyg neu'r nyrs yn rheolaidd i gael mwy o bils, ac i wirio'ch pwysedd gwaed.
Pwy sy'n cael eu defnyddio?
Nid yw pawb yn gallu defnyddio'r bilsen gyfunol, a bydd meddyg neu nyrs yn gofyn am hanes eich iechyd chi a hanes iechyd eich teulu. Dylech sôn am unrhyw salwch neu lawdriniaeth a gafwyd yn y gorffennol.
Sgil effeithiau posibl
Wrth ddechrau cymryd y bilsen, mae'n bosibl y cewch sgil effeithiau dros dro. Ymysg y rhain mae:
- cur pen
- colli neu ennill pwysau
- cyfog
- bronnau'n teimlo'n dendr
- gwaedu rhwng mislifoedd
- newid mewn hwyliau
Dylai'r sgil effeithiau hyn ddod i ben o fewn tri mis. Os nad ydynt, efallai y byddai'n syniad newid y math o bilsen.
Pa mor effeithiol yw'r bilsen?
Trwy ei defnyddio yn ôl y cyfarwyddiadau:
- Mae'r bilsen gyfunol yn 99% effeithiol.
Os ydych yn sâl neu wedi cael dolur rhydd o fewn tair awr o gymryd y bilsen, bydd angen defnyddio dull ychwanegol o atal cenhedlu (e.e. condom) tra'n sâl, ac am gyfnod o 7 diwrnod ar ôl hynny. Gyda rhai mathau o'r bilsen (er enghraifft y rhai sy'n golygu cymryd pilsen am 21 diwrnod, yna seibiant o 7 diwrnod), efallai y bydd angen cychwyn pecyn newydd o'r bilsen syth ar ôl gorffen y pecyn presennol, yn hytrach na chymryd seibiant fel arfer. Dylech edrych ar y cyfarwyddiadau yn y pecyn, neu trafodwch y sefyllfa gyda'r meddyg neu nyrs.
Hefyd, mae rhai meddyginiaethau eraill (gan gynnwys rhai meddyginiaethau cyflenwol) yn gallu effeithio ar y bilsen, felly efallai y bydd angen ystyried defnyddio dull atal cenhedlu ychwanegol wrth gymryd y ffisig ac am gyfnod o saith niwrnod ar ôl hynny.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Dulliau atal cenhedlu eraill:
Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk

