Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Condom (gwrywaidd)

Condom (gwrywaidd/benywaidd)

Beth ydyn nhw a sut maen nhw'n gweithio?

Dull rhwystrol yw'r rhain sy'n cael eu cynhyrchu o latecs (rwber) neu bolywrethan (plastig) tenau. Mae'n gweithio trwy gasglu hadau'r dyn.

Sut i'w defnyddio?

  • Mae'r "condom gwrywaidd" yn mynd ar godiad y dyn.
  • Defnyddir y "condom benywaidd", sy'n gwdyn plastig, tu fewn i'r fagina ac ychydig tu allan.
Condom (benywaidd)

Mae'n rhaid gosod y ddau fath o gondom cyn i unrhyw gyswllt agos rhwng yr organau cenhedlu ddigwydd.

Mae'n rhaid cadw condomau allan o'r golau, lle llaith, gwres cynnes ac i ffwrdd o bethau miniog. Dylid hefyd edrych ar y dyddiad "defnyddio erbyn" ar y pecyn cyn eu defnyddio. Ni ddylid defnyddio condomau gydag ireidiau sy'n defnyddio olew fel sail (e.e. jeli petroliwm, olewau i'r corff, elïau neu olchdrwythau), oherwydd gallent achosi difrod i'r latecs fydd yn golygu fod y condom yn fwy tebygol o hollti.

Ble gellir eu prynu?

Gellir prynu condomau o fferyllfeydd, gorsafoedd petrol, archfarchnadoedd, peiriannau gwerthu (sydd ar gael mewn toiledau mewn tafarndai a chlybiau'n aml iawn), neu drwy'r post. Dylid prynu condomau sydd â marc nod y British Standards Institute (BSI) neu farc ansawdd Ewropeaidd arnynt (mae'r rhain wedi bod yn destun gwiriadau ansawdd trwyadl).

Beth yw'r manteision o'u defnyddio?

O'u defnyddio yn y ffordd gywir, mae condomau'n rhoi peth amddiffyn i'r ddau bartner rhag dal heintiau a drosgwlyddir yn rhywiol, sy'n lledu trwy ryw dreiddiol trwy'r wain, trwy'r anws neu drwy'r geg (e.e. chlamydia, gonorrhoea neu hepatitis B).

Fodd bynnag, yn achos heintiau megis dafadennau gwenerol, herpes a syffilis, mae'n bosibl na fydd condom yn gorchuddio'r holl fannau priodol. Hefyd, nid yw condom yn rhoi fawr o amddiffyn yn erbyn clefydau megis clefyd crafu, llau a heintiau eraill sy'n cael eu trosglwyddo'n unig drwy gyswllt croen i groen agos.

Pa mor effeithiol ydynt?

Trwy eu defnyddio yn ôl y cyfarwyddiadau:

  • Mae'r condom gwrywaidd yn 98% effeithiol.
  • Mae'r condom benywaidd yn 95% effeithiol.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Dulliau atal cenhedlu eraill:


Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk