Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Y diaffram neu'r cap

Y diaffram neu'r cap

Beth yw'r rhain a sut maen nhw'n gweithio?

Dulliau rhwystrol o atal cenhedlu yw'r rhain, sydd, er mwyn bod yn effeithiol, yn gorfod cael eu defnyddio gyda sbermleiddiad (cemegyn sy'n lladd hadau).

Mae diafframau sy'n cael eu rhoi yn y wain yn gromen latecs hyblyg, crwn eu siâp, sy'n gorchuddio ceg y groth. Mae tri math o ddiafframau i fenywod - rhai sbring llyfn, coil, neu'n arch. Mae pob math yn dod mewn meintiau gwahanol.

Mae capiau cerfigol yn llai na diafframau - mae mathau newydd o gapiau yn cael eu cynhyrchu o silicôn. Mae tri math gwahanol o gap cerfigol - rhai cromen, cerfigol neu 'vimule' (sydd â ffrâm fwy miniog). Mae pob math yn dod mewn meintiau gwahanol.

Mae'r ddau ddull yn gweithio trwy gael eu gosod tu fewn i'r wain a gorchuddio ceg y groth, tra mae'r sbermleiddiad yn lladd unrhyw hadau.

Sut i'w defnyddio?

Gellir rhoi diafframau neu gapiau yn eu lle unrhyw bryd cyn cael rhyw. Fodd bynnag, os bydd mwy na 3 awr yn mynd heibio ar ôl gosod y diaffram neu'r cap, a chael rhyw, bydd angen defnyddio sbermleiddiad ychwanegol (megis jeli, hufen neu besari). Bydd angen defnyddio mwy o sbermleiddiad hefyd os ydych chi'n cael rhyw eildro.

Mae'n rhaid gadael y diaffram neu'r cap yn ei le am o leiaf 6 awr ar ôl cael rhyw, ond ni ddylid ei adael am dros 30 awr (er y gellir gadael rhai o'r dyfeisiau silicon newydd am gyfnod hirach).

Lle maent ar gael?

O Glinig Cynllunio Teulu a rhai Meddygon Teulu. Bydd y meddyg yn rhoi archwiliad i chi, ac yn helpu penderfynu pa fath o ddiaffram neu gap fydd yn siwtio chi orau, yn dewis y maint cywir, yn dysgu chi sut i ddefnyddio'r ddyfais, ac yn ei osod am y tro cyntaf.

Bydd angen i chi weld meddyg neu nyrs bob 6-12 mis i wneud yn siwr fod y diaffram neu'r cap yn ffitio'n gywir. Byddant yn rhoi diaffram neu gap newydd i chi pan fydd angen. Mae'n bur debyg y bydd angen diaffram neu gap maint gwahanol os byddwch yn colli neu'n ennill mwy na 3cilogram (7 pwys/hanner stôn), yn cael erthyliad naturiol, erthyliad neu'n cael babi.

Pa mor effeithiol ydynt?

Trwy eu defnyddio yn ôl y cyfarwyddiadau: mae diafframau a chapiau rhwng 92-96% effeithiol.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Dulliau atal cenhedlu eraill:


Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk