Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Dulliau atal cenhedlu brys - pils ('y bilsen bore wedyn')

Dulliau atal cenhedlu brys - pils ("y bilsen bore wedyn")

Beth yw hyn a sut mae'n gweithio?

Os ydych wedi cael cyfathrach rywiol heb ddefnyddio unrhyw fath o ddull atal cenhedlu ("rhyw ddiamddiffyn") neu os ydych yn meddwl fod y dull a ddefnyddiwyd wedi methu, gall menyw ddefnyddio Pilsen Atal Cenhedlu Brys (efallai eich bod wedi clywed amdanynt trwy eu henw cyffredin "y bilsen bore wedyn") er mwyn atal beichiogrwydd digroeso.

Mae'r bilsen atal cenhedlu brys yn cynnwys yr hormon progestin. Dylid cychwyn arnynt o fewn 3 diwrnod (72 awr) o gael rhyw ddiamddiffyn, ond maent yn fwyaf effeithiol gorau po gynted mae rhywun yn cychwyn arnynt. Dwy sydd mewn pecyn. Dylid cymryd y ddwy bilsen gyda'i gilydd, ar yr un pryd a chyn gynted â phosibl ar ôl cael rhyw ddiamddiffyn.

Maent yn gweithio trwy atal ofarïau'r fenyw rhag rhyddhau wy, neu drwy achosi oedi i'r ofwliad. Byddant hefyd yn atal wy wedi'i ffrwythloni rhag ymsefydlu yn y groth.

Ar ôl cymryd y pils atal cenhedlu brys, mae'n bosibl y daw eich mislif yn gynt na'r disgwyl, neu gall fod hyd at wythnos yn hwyr. Fel arfer, byddwch yn cael mislif o fewn ychydig o ddyddiau i'r dyddiad y'i disgwylir. Efallai y byddwch yn cael peth gwaedu afreolaidd (gall hyn amrywio o fod yn ysgafn iawn i weddol drwm) rhwng cymryd y pils brys a chael y mislif nesaf.

Pwy sy'n gallu eu defnyddio?

Gall bron pob menyw defnyddio'r pils brys. Fodd bynnag, dylech ddweud wrth eich meddyg neu nyrs os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau ar bresgripsiwn neu unrhyw feddyginiaethau cyflenwol, neu os ydych yn dioddef o salwch penodol, oherwydd efallai y bydd angen cyngor arbennig arnoch chi.

Anfanteision

Does dim effeithiau tymor hir na difrifol. Bydd nifer fach iawn o fenywod yn chwydu.

Yn y tymor byr, gall rhai menywod ddioddef o:

  • Gyfog
  • Cur pen
  • Penysgafnder
  • Blinder
  • Bronnau'n teimlo'n dendr
  • Poen yn yr abdomen

Ble maen nhw ar gael?

Mae dulliau atal cenhedlu brys ar gael am ddim oddi wrth:

  • Unrhyw feddyg sy'n darparu gwasanaethau atal cenhedlu
  • Unrhyw Glinig Cynllunio Teulu
  • Unrhyw Glinig Pobl Ifanc neu Glinig Brook
  • Y rhan fwyaf o Glinigau Iechyd Rhywiol
  • Y rhan fwyaf o Glinigau Meddygaeth Genhedlol Droethol (GUM)
  • Y rhan fwyaf o ganolfannau cerdded i mewn y GIG (Lloegr yn unig)
  • Rhai adrannau damwain a brys o fewn ysbytai (ffoniwch yn gyntaf)
  • Rhai fferyllfeydd

Gellir prynu'r bilsen atal cenhedlu brys o:

  • Y rhan fwyaf o fferyllfeydd os ydych 16 oed a throsodd
  • Rhai clinigau preifat (e.e. British Pregnancy Advisory Service (BPAS) a Marie Stopes.

Ble bynnag yr ewch, mae'r holl gyngor a thriniaeth a roddir yn gyfrinachol.

Pa mor effeithiol maen nhw?

Mae'r bilsen atal cenhedlu brys yn fwyaf effeithiol o'i gymryd yn fuan ar ôl cael rhyw.

O'i chymryd o fewn 24 awr (1 diwrnod) o gael rhyw ddiamddiffyn, bydd yn atal 95% o'r nifer a ddisgwylir i fod yn feichiog pe na ddefnyddiwyd dull atal cenhedlu brys.

O'i chymryd o fewn 72 awr (3 diwrnod) o gael rhyw ddiamddiffyn, bydd yn atal 58% o'r nifer a ddisgwylir i fod yn feichiog pe na ddefnyddiwyd dull atal cenhedlu brys.

Ar ôl cymryd y bilsen atal cenhedlu brys, ewch i weld eich meddyg os:

  • Mae'ch mislif fwy na 7 diwrnod yn hwyr
  • Mae'ch mislif yn fyrrach neu'n ysgafnach nag arfer
  • Cewch boen annisgwyl neu anghyffredin yn eich abdomen isel
  • Ydych yn credu eich bod yn feichiog
  • Ydych am drafod dull atal cenhedlu cyson
  • Ydych yn poeni eich bod wedi dal haint a drosglwyddir yn rhywiol

Pils atal cenhedlu brys - holi ac ateb

"A yw pils atal cenhedlu brys yn gallu methu?"

Dylid cymryd pils atal cenhedlu brys cyn gynted â phosibl ar ôl cael rhyw ddiamddiffyn, ac maent yn fwyaf effeithiol o gymryd y bilsen gyntaf o fewn 24 awr. Mae'r pils atal cenhedlu brys yn fwyaf tebygol o fethu os:

  • Ydych yn cymryd y bilsen gyntaf fwy na 72 awr ar ôl cael rhyw ddiamddiffyn
  • Ydych yn chwydu o fewn 2 awr o gymryd y pils
  • Nad ydych yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pils
  • Ydych wedi cael rhyw ddiamddiffyn ar adeg arall

"Beth sy'n digwydd os rwyf yn chwydu o fewn dwy awr o gymryd y naill bilsen neu'r llall?"

Mae'n bwysig i chi siarad â'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd.

"Sut byddaf yn gwybod fod y pils brys wedi gweithio?"

Os ydych wedi dilyn y cyfarwyddiadau, ac mae'ch mislif nesaf yn ymddangos yn normal, mae'n annhebyg eich bod yn disgwyl. Fodd bynnag, gofynnwch am gyngor os ydych yn poeni ynghylch hyn.

"Gallaf ddefnyddio pils atal cenhedlu yn rheolaidd?"

Nid yw pils atal cenhedlu brys mor effeithiol â dulliau atal cenhedlu cyson eraill. Os nad ydych am fynd yn feichiog, dylech wastad ddefnyddio dull atal cenhedlu.

"Gallaf gymryd pils atal cenhedlu brys fwy nag unwaith?"

Gallwch, ond ni ddylech eu defnyddio fel dull atal cenhedlu rheolaidd. Nid yw'n beryglus i gymryd pils atal cenhedlu brys mwy nag unwaith, ond trwy wneud hynny, gall effeithio ar eich mislifoedd.

"Gallaf gael pils atal cenhedlu brys ymlaen llaw?"

Gallwch, os ydych yn poeni fod eich dull atal cenhedlu arferol yn mynd i fethu, neu os nad ydych yn gallu cael gafael ar ddull atal cenhedlu brys yn gyflym. Trafodwch hyn gyda'ch meddyg neu nyrs.

"A yw pils atal cenhedlu brys yn achosi erthyliad?"

Nac ydyn. Mae ymchwil meddygol a barn gyfreithiol yn hollol glir fod pils atal cenhedlu brys yn atal beichiogrwydd, ac nid erthyliad yw hyn. Mae erthyliad ond yn digwydd ar ôl i wy wedi'i ffrwythloni ymsefydlu yn y groth. Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd pobl sy'n credu fod bywyd yn cychwyn pan fydd wy yn cael ei ffrwythloni, am ddefnyddio pils atal cenhedlu brys.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Dulliau atal cenhedlu eraill:

Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk