Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Dull atal cenhedlu brys - IUD

Dull atal cenhedlu brys - IUD

Beth yw hwn a sut mae'n gweithio?

Os ydych wedi cael rhyw heb ddefnyddio dull atal cenhedlu ("rhyw ddiamddiffyn") neu os ydych yn credu fod eich dull atal cenhedlu wedi methu, gall meddyg neu nyrs osod dyfais fewngroth gopr (IUD) yn y groth hyd at 5 diwrnod ar ôl i chi gael rhyw ddiamddiffyn, neu hyd at 5 diwrnod ar ôl y dyddiad cynharaf posibl o ryddhau wy.

Mae'r IUD yn gweithio trwy atal yr wy rhag cael ei ffrwythloni neu rhag ymsefydlu yn y groth.

Gellir tynnu'r IUD unwaith eto cyn gynted â'ch bod yn sicr nad ydych yn disgwyl (yn ystod eich mislif nesaf). Fodd bynnag, efallai yr hoffech gadw'r IUD fel dull atal cenhedlu parhaol.

Sgil effeithiau posibl

Mae anfanteision yr IUD yn cynnwys y posibilrwydd o haint yn ystod yr 20 diwrnod cyntaf ar ôl gosod yr IUD. Yn anaml iawn, gall yr IUD tyllu'r groth neu geg y groth wrth ei gosod. Pe ddigwydd hyn, mae'n bosibl y bydd angen llawdriniaeth i dynnu'r IUD oddi yno.

Ble maen nhw ar gael?

Mae dulliau atal cenhedlu brys ar gael am ddim oddi wrth:

  • Unrhyw Feddyg sy'n darparu gwasanaethau atal cenhedlu
  • Unrhyw Glinig Cynllunio Teulu
  • Unrhyw Glinig i Bobl Ifanc neu Glinig Brook
  • Y rhan fwyaf o Glinigau Iechyd Rhywiol
  • Y rhan fwyaf o Glinigau Meddygaeth Genhedlol Droethol (GUM)
  • Y rhan fwyaf o ganolfannau cerdded i mewn y GIG (Lloegr yn unig)
  • Rhai adrannau brys a damwain mewn ysbytai (ffoniwch yn gyntaf)

Ble bynnag yr ewch, bydd yr holl gyngor a thriniaeth a roddir yn gyfrinachol.

Pa mor effeithiol maen nhw?

Bydd yr IUD yn atal 98% o'r nifer a ddisgwylir i fod yn feichiog pe na ddefnyddiwyd dull atal cenhedlu brys. Gallwch hefyd ddefnyddio'r IUD fel dull atal cenhedlu parhaol pe dymunir.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Dulliau atal cenhedlu eraill:

Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk