Anffrwythloni benywaidd
Beth yw hyn a sut mae'n gweithio?
Dull atal cenhedlu parhaol yw hwn lle mae'r tiwbiau Ffalopio sy'n cludo'r wy o'r ofari i'r groth yn cael eu torri, eu selio neu eu cau. Gwneir hyn drwy driniaeth lawfeddygol o'r enw laparoscopi neu mini laporotomi.
Mae ofarïau, groth a cheg groth y fenyw yn cael eu gadael yn eu lle, felly bydd y corff yn dal i ryddhau wy bob mis, ond mae'r corff yn amsugno'r wy. Fodd bynnag, er mwyn peidio mynd yn feichiog, bydd angen parhau i ddefnyddio dull atal cenhedlu arall nes cael eich mislif cyntaf ar ôl y driniaeth lawfeddygol. Ni ddylai fod unrhyw effaith ar ysfa rywiol y fenyw a'i gallu i fwynhau rhyw o ganlyniad i'r driniaeth.
Beth yw'r manteision?
Dull atal cenhedlu parhaol yw hwn.
Anfanteision
- Mae anffrwythloni benywaidd yn golygu triniaeth lawfeddygol syml ac anaesthetig cyffredinol fel arfer.
- Er yn anghyffredin, gall y tiwbiau ail-gysylltu a gallwch fod yn ffrwythlon eto.
- Nid yw'n amddiffyn yn erbyn heintiau a drosgwlyddir yn rhywiol.
- Nid yw'n hawdd dadwneud y driniaeth yma.
Pwy sy'n gallu ei ddefnyddio?
Dim ond yn addas i bobl sy'n sicr nad ydynt am gael mwy o blant, neu sydd byth am gael plant. Felly, dylech gael yr holl wybodaeth a chyngor sydd ar gael os am ddilyn y llwybr yma. Ni ddylech benderfynu cael eich anffrwythloni os nad ydych chi a'ch partner yn hollol siwr, neu os ydych dan unrhyw straen (e.e. ar ôl geni plentyn, erthyliad naturiol, erthyliad neu argyfwng o fewn y teulu neu'r berthynas). Er bod triniaeth ar gael i ddadwneud y driniaeth lawfeddygol, mae'n gymhleth, yn ddrud (ac nid yw ar gael ar y GIG yn aml) ac nid yw wastad yn llwyddiannus.
Ble mae cyngor ar anffrwythloni ar gael?
Gallwch fynd at Glinig Cynllunio Teulu, at eich Meddyg neu at nyrs bractis. Mae'r holl driniaeth yn gyfrinachol ac ar gael am ddim. Gall rhestrau aros y GIG fod yn weddol hir, yn dibynnu ar le rydych yn byw. Gellir trefnu i gael y driniaeth yn breifat.
Pa mor effeithiol yw?
Mae risg bach iawn na fydd y llawdriniaeth yn gweithio, oherwydd gall y tiwbiau sy'n cludo'r wyau ail-gysylltu ar ôl y driniaeth. Gall y driniaeth fethu yn syth, neu rai blynyddoedd ar ôl ei chael. Mae'r nifer sy'n methu ar y cyfan yn rhyw 1 o bob 200, yn dibynnu ar y dull a ddefnyddiwyd.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Dulliau atal cenhedlu eraill:
Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk

