Mewnblaniad atal cenhedlu
Beth yw hwn a sut mae'n gweithio?
Tiwb bach hyblyg yw hwn (tua'r un maint â chraff gwallt), sy'n cael ei osod o dan y croen ar ochr fewnol bôn braich y ddynes. Mae'r mewnblaniad yn rhyddhau progestin yn raddol i waed y ddynes dros gyfnod o dair blynedd.
Mae'n gweithio trwy wneud mwcws o geg groth y ddynes yn fwy trwchus sy'n golygu ei fod yn anodd i'r hadau gyrraedd wy. Mae hefyd yn achosi newidiadau i gorff y ddynes sy'n ei wneud yn llai yn llai tebygol y bydd y groth yn derbyn wy wedi'i ffrwythloni, ac weithiau, mae'n atal ofarïau'r ddynes rhag cynhyrchu wy.
Beth yw'r manteision?
Does dim rhaid i chi feddwl am atal cenhedlu am hyd fywyd y mewnblaniad. Fodd bynnag, nid yw'r mewnblaniad yn eich diogelu yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, felly efallai y bydd angen defnyddio condom hefyd. Nid yw'n amharu ar ryw. Gallwch hefyd roi'r fron tra rydych yn defnyddio'r mewnblaniad fel dull atal cenhedlu.
Sgil effeithiau posibl
Mae'r sgil effeithiau posibl yn cynnwys:
- newidiadau i'ch mislifoedd
- ennill pwysau
- cur pen
- acne
- bronnau'n teimlo'n dendr
- ymchwyddo
Hefyd, weithiau gall fod yn anodd tynnu'r mewnblaniad allan.
Pwy sy'n cael eu defnyddio?
Nid yw pawb yn gallu cael mewnblaniad atal cenhedlu, a bydd meddyg neu nyrs yn gofyn i chi am hanes eich iechyd chi a hanes iechyd eich teulu. Dylech sôn am unrhyw salwch neu lawdriniaeth a gafwyd yn y gorffennol.
Ble maen nhw ar gael?
Bydd yn rhaid i feddyg neu nyrs sydd wedi derbyn hyfforddiant mewn gosod mewnblaniadau ei osod ar eich cyfer. Efallai y bydd angen defnyddio anesthetig lleol gyntaf yn y man lle bydd y mewnblaniad yn cael ei osod. Efallai y bydd y man yma'n dendr am ddiwrnod neu ddau wedyn, a gall cleisio neu chwyddo ychydig. Ceisiwch beidio bwrw'r man yn erbyn pethau. Bydd y meddyg neu'r nyrs yn rhoi gorchudd i gadw'r man yn lân ac yn sych - dylid gadael hwn ymlaen am ychydig ddyddiau.
Peidiwch â phoeni ynghylch bwrw'r mewnblaniad ar ôl i'r man wella - ni fydd yn torri neu'n symud o gwmpas yn eich braich. Bydd yn rhaid i chi gael gwiriad bob tri mis ar ôl gosod y mewnblaniad. Ar ôl hynny, bydd angen cael gwiriad blynyddol. Os bydd unrhyw broblemau'n codi rhwng y gwiriadau hyn, cysylltwch â'ch meddyg neu nyrs.
Mae'r mewnblaniad yn gweithio am 3 blynedd, er gellir ei dynnu cyn hynny. Er hyn, nid dull atal cenhedlu tymor byr yw'r mewnblaniad, ac os nad ydych yn siwr eich bod am ddefnyddio dull atal cenhedlu am 3 blynedd, efallai y byddai dulliau eraill o atal cenhedlu yn fwy addas i chi.
Pan fydd y mewnblaniad yn dod i ben, bydd angen i feddyg neu nyrs hyfforddedig ei dynnu allan. Efallai y bydd yn anoddach tynnu'r mewnblaniad na'i osod, er bydd y meddyg neu'r nyrs yn rhoi anesthetig lleol i chi. Os ydych am barhau i ddefnyddio mewnblaniad atal cenhedlu, gellir gosod un newydd wrth dynnu'r hen un allan.
Pa mor effeithiol yw?
Mae'r mewnblaniad atal cenhedlu yn 99% effeithiol.
Gall rhai meddyginiaethau ar bresgripsiwn, gan gynnwys meddyginiaethau ar gyfer epilepsi a thiwbercwlosis achosi i'r mewnblaniad fod yn llai effeithiol. Gall rhai meddyginiaethau cyflenwol hefyd effeithio ar y mewnblaniad. Dylech ddweud felly os ydych yn defnyddio mewnblaniad atal cenhedlu pan fydd meddyg yn rhoi presgripsiwn i chi.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Dulliau atal cenhedlu eraill:
Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk

