Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Pigiad atal cenhedlu

Pigiad i atal cenhedlu

Beth yw hwn a sut mae'n gweithio?

Mae'r pigiad atal cenhedlu yn ddull tymor hir, effeithiol iawn sy'n defnyddio hormonau i atal cenhedlu. Mae'r pigiad yn cynnwys yr hormon progestin, sy'n cael ei chwistrellu i gyhyr yng nghorff y fenyw (fel arfer yn ei phen ôl), ac sy'n cael ei ryddhau'n araf iawn i'w chorff. Yn dibynnu ar y math o bigiad, bydd yn parhau am naill ai 8 neu 12 wythnos.

Mae'r pigiad atal cenhedlu yn gweithio'n bennaf trwy atal ofarïau'r ddynes rhag cynhyrchu wy bob mis. Mae'r pigiad hefyd yn achosi newidiadau yng nghorff y ddynes sy'n ei wneud yn anodd i hadau fynd i'r groth neu i'r groth dderbyn wy wedi'i ffrwythloni.

Beth yw'r manteision?

Does dim rhaid i chi feddwl am atal cenhedlu am y cyfnod y mae'r pigiad yn parhau. Fodd bynnag, nid yw'r pigiad yn eich diogelu yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, felly efallai y bydd angen defnyddio condom hefyd. Nid yw'n amharu ar ryw. Gallwch hefyd roi'r fron tra rydych yn defnyddio'r pigiad atal cenhedlu.

Sgil effeithiau posibl

Mae'r sgil effeithiau posibl yn cynnwys:

  • newidiadau i'r mislifoedd
  • ennill pwysau
  • cur pen
  • acne
  • bronnau'n teimlo'n dendr
  • hwyliau ansad
  • ymchwyddo

Hefyd, oherwydd nad yw'n bosibl tynnu'r pigiad atal cenhedlu o'ch corff, gall y sgil effeithiau barhau am fywyd y pigiad, ac am gyfnod ar ôl hynny.

Pwy sy'n gallu ei ddefnyddio?

Nid yw pawb yn gallu cael pigiad atal cenhedlu, a bydd meddyg neu nyrs yn gofyn am hanes eich iechyd, a hanes iechyd eich teulu. Dylech sôn am unrhyw salwch neu lawdriniaeth a gafwyd yn y gorffennol.

Ble mae'r pigiad ar gael?

Gall meddyg neu nyrs roi'r pigiad i chi. Byddant yn trafod eich cefndir meddygol, a chefndir meddygol eich teulu, gyda chi, er mwyn ystyried a yw'r pigiad yn addas i chi, a dylent hefyd sôn am sgil effeithiau posibl y pigiad atal cenhedlu. Gwnewch yn siwr eich bod yn gofyn i'r meddyg neu'r nyrs unrhyw gwestiynau sydd gennych. Ewch ag unrhyw wybodaeth adref gyda chi, ac ewch yn ôl ar ôl gwneud eich penderfyniad.

Pa mor effeithiol yw?

Mae'r pigiad atal cenhedlu yn 99% effeithiol.

Gall y pigiad fod yn llai effeithiol os nad ydych yn cael y pigiad nesaf ar amser, neu o ganlyniad i gymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn sy'n effeithio ar y pigiad (gan gynnwys meddyginiaethau i drin epilepsi a thiwberciwlosis). Dylech felly ddweud ar unwaith os ydych yn defnyddio pigiad atal cenhedlu os mae meddyg yn rhoi presgripsiwn i chi.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Dulliau atal cenhedlu eraill:

Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk