Dyfais fewngroth (IUD)
Beth yw hwn a sut mae'n gweithio?
Dyfais blastig a chopr bach yw hon, sy'n cael ei gosod yn y groth (ei enw ers talwm oedd "y coil"). Mae un neu ddau o edafedd tenau, meddal ar y pen, sy'n hongian lawr ychydig o'r groth i flaen y wain.
Mae'r IUD yn gweithio'n bennaf trwy atal yr hadau rhag cyrraedd wy, neu trwy atal wy rhag ymsefydlu yn y groth. Mae meddyg neu nyrs hyfforddedig yn gosod yr IUD, a gall aros yn y groth am 3-10 mlynedd.
Beth yw'r manteision?
Mae'n gweithio am gyfnod o 3-10 mlynedd, a does dim rhaid i chi feddwl am atal cenhedlu mor bell â'i bod yno. Fodd bynnag, nid yw'r IUD yn amddiffyn yn erbyn heintiau a drosgwlyddir yn rhywiol, felly efallai y bydd angen defnyddio condom hefyd. Nid yw'n amharu ar ryw.
Sgil effeithiau posibl
Ymysg anfanteision yr IUD mae'r canlynol:
- posibilrwydd o fislifoedd trymach a mwy poenus (gall hyn wella ar ôl ychydig o fisoedd)
- posibilrwydd o gael haint o fewn yr 20 diwrnod cyntaf ar ôl gosod yr IUD.
- posibilrwydd o'r groth yn gwthio'r IUD allan (yr enw ar hyn yw "ymwthio") neu gall symud ("disodli"). Bydd eich meddyg neu nyrs yn dysgu chi sut i wneud yn siwr bob mis fod edafedd yr IUD dal yn y lle iawn.
- Yn anaml iawn, gall yr IUD tyllu'r groth neu geg y groth wrth ei gosod. Pe ddigwydd hyn, efallai y bydd angen llawdriniaeth i'w thynnu oddi yno.
Pwy sy'n cael eu defnyddio?
Nid yw pawb yn gallu defnyddio IUD, a bydd meddyg neu nyrs yn gofyn hanes eich iechyd chi a hanes iechyd eich teulu. Dylech sôn am unrhyw salwch neu lawdriniaeth a gafwyd yn y gorffennol.
Ble maen nhw ar gael?
Bydd Clinigau Cynllunio Teulu, Clinigau Iechyd Rhywiol a rhai Meddygon Teulu yn gosod IUD.
Mae gwahanol fathau a meintiau ar gael - mae mathau gwahanol yn siwtio menywod gwahanol.
Bydd y meddyg neu'r nyrs yn rhoi archwiliad mewnol i chi er mwyn darganfod lleoliad a maint eich croth cyn gosod IUD, a bydd yn gwneud yn siwr nad oes posibilrwydd eich bod yn disgwyl yn barod. Weithiau bydd yn edrych am unrhyw heintiau sydd gennych yn barod.
Bydd angen i feddyg neu nyrs gadarnhau fod yr IUD yn y lle iawn ryw 4-6 wythnos ar ôl ei gosod, ac yna unwaith y flwyddyn ar ôl hynny. Gall IUD aros am gyfnod o 3-10 mlynedd yn dibynnu ar y math, ond gall meddyg neu nyrs hyfforddedig dynnu'r IUD allan unrhyw bryd.
Pa mor effeithiol yw?
Mae'r IUD yn 98 -99% effeithiol.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Dulliau atal cenhedlu eraill:
Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk

