System fewngroth (IUS)
Beth yw hwn a sut mae'n gweithio?
Dyfais fach, plastig siâp T yw hon, gydag edafedd ar y pen. Mae'n cael ei gosod yn y groth, gyda'r edafedd yn hongian lawr ychydig o'r groth i flaen y wain.
Mae'n cynnwys yr hormon progestin, ac yn gweithio trwy ryddhau progestin yn gyson i'r gwaed. Mae hyn yn achosi i fwcws o geg groth y fenyw fynd yn fwy trwchus, sy'n golygu ei bod yn anodd i'r hadau gyrraedd wy. Mae hefyd yn achosi newidiadau yng nghorff y fenyw sy'n ei wneud yn llai tebygol i'r groth dderbyn wy wedi'i ffrwythloni, ac weithiau mae'n atal ofarïau'r fenyw rhag rhyddhau wy.
Beth yw'r manteision?
Mae'n hynod effeithiol, ac nid yw'n amharu ar ryw. Mae'n gweithio am 5 mlynedd, a does dim rhaid i chi feddwl am atal cenhedlu mor bell â'i bod yn ei le (fodd bynnag nid yw'r IUS yn amddiffyn yn erbyn heintiau a drosgwlyddir yn rhywiol, felly efallai y bydd angen defnyddio condom hefyd). Ar ôl ei defnyddio am ryw 3 mis, bydd eich mislif yn mynd yn ysgafnach ac yn fyrrach, ac fel arfer mae IUS yn lleihau neu'n cael gwared â phoen mislifoedd. Gall rhai menywod ddarganfod y bydd eu mislif yn dod i ben yn gyfan gwbl - peth hollol iach yw hyn.
Sgil effeithiau posibl
Ymysg anfanteision yr IUS mae'r rhain:
- posibilrwydd o waedu ysgafn anghyson rhwng mislifoedd am ychydig o fisoedd.
- posibilrwydd o'r groth yn gwthio'r IUS allan (yr enw ar hyn yw "ymwthio") neu gall symud ("disodli"). Bydd eich meddyg neu nyrs yn dysgu chi sut i wneud yn sïwr bob mis fod edafedd yr IUS dal yn y lle iawn.
- Yn anaml iawn, gall yr IUS tyllu'r groth neu geg y groth wrth ei gosod. Pe ddigwydd hyn, mae'n bosibl y bydd angen llawdriniaeth i dynnu'r IUS oddi yno.
Sgil effeithiau posibl dros dro megis:
- cur pen
- acne
- bronnau'n teimlo'n dendr
- gall codennau ar yr ofarïau ddigwydd yn ystod y misoedd cyntaf.
Pwy sy'n cael ei defnyddio?
Nid yw pawb yn gallu defnyddio IUS, a bydd meddyg neu nyrs yn gofyn hanes eich iechyd chi a hanes iechyd eich teulu. Dylech sôn am unrhyw salwch neu lawdriniaeth a gafwyd yn y gorffennol.
Ble maen nhw ar gael?
Bydd Clinigau Cynllunio Teulu a rhai meddygon teulu yn gosod IUS.
Bydd y meddyg neu'r nyrs yn rhoi archwiliad mewnol i chi er mwyn darganfod lleoliad eich croth cyn mynd ati i osod IUS, a bydd hefyd yn gwneud yn siwr nad oes posibilrwydd eich bod yn disgwyl yn barod.
Bydd angen i feddyg neu nyrs gadarnhau fod yr IUS yn y lle iawn ryw 4-6 wythnos ar ôl ei gosod, ac yna unwaith y flwyddyn ar ôl hynny. Gall IUS aros am gyfnod o 5 mlynedd, ond gall meddyg neu nyrs hyfforddedig dynnu'r IUS allan unrhyw bryd.
Pa mor effeithiol yw?
Mae'r IUS dros 99% effeithiol.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Dulliau atal cenhedlu eraill:
Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk

