Anffrwythloni gwrywaidd (fasectomi)
Beth yw hyn a sut mae'n gweithio?
Dull parhaol o atal cenhedlu yw hwn lle mae'r tiwbiau ("vas deferens") sy'n mynd â hadau'r dyn o'r ceilliau i'r pidyn yn cael eu torri neu eu cau.
Nid oes unrhyw effaith ar deimladau'r dyn, ar ei ysfa rywiol, na'i allu i gael codiad ac uchafbwynt o ganlyniad i gael fasectomi. Bydd y corff yn dal i gynhyrchu hadau, ond bydd y rhain yn cael eu hamsugno i'r corff. Dylai gwedd a maint y semen a gynhyrchir a'r teimladau o uchafbwynt fod yr un peth ag o'r blaen.
Beth yw'r manteision?
Dull parhaol o atal cenhedlu yw. Triniaeth lawfeddygol syml sy'n cymryd rhyw 10-15 munud yn unig.
Anfanteision
- Fel arfer mae angen ychydig o fisoedd i'r holl hadau ddiflannu o'r semen. Bydd angen defnyddio dull atal cenhedlu arall nes cael dau brawf semen (ar ôl rhyw wyth i ddeuddeg wythnos ar ôl cael y fasectomi) sy'n dangos nad oes unrhyw hadau ar ôl.
- Er yn anghyffredin, gall y tiwbiau ail-gysylltu, a gallwch fod yn ffrwythlon eto.
- Nid oes unrhyw amddiffyn yn erbyn heintiau a drosgwlyddir yn rhywiol.
- Nid yw'n hawdd dadwneud y driniaeth hon.
Pwy sy'n gallu ei ddefnyddio?
Mae'r dull yma ond yn addas i bobl sy'n siwr nad ydynt am gael mwy o blant, neu sydd byth am gael plant. Felly, dylech gael gwybodaeth a chyngor llawn os am gael y driniaeth yma. Ni ddylech benderfynu cael eich anffrwythloni os nad ydych chi a'ch partner yn hollol siwr, neu os ydych dan unrhyw bwysau (e.e. ar ôl geni plentyn, erthyliad naturiol, erthyliad, neu argyfwng yn y teulu neu'r berthynas). Er bod triniaeth lawfeddygol ar gael i ddadwneud y driniaeth, mae'n gymhleth, yn ddrud (nid yw ar gael ar y GIG yn aml) a does dim sicrwydd y bydd yn llwyddiannus.
Ble mae cyngor ar anffrwythloni ar gael?
Gallwch fynd i Glinig Cynllunio Teulu, eich Meddyg Teulu neu'r nyrs practis. Mae unrhyw driniaeth yn hollol gyfrinachol ac am ddim. Gall y rhestrau aros am y driniaeth ar y GIG fod yn weddol hir, yn dibynnu ar le rydych chi'n byw. Gallwch drefnu cael y driniaeth yn breifat.
Pa mor effeithiol yw?
Mae risg bach iawn na fydd yr anffrwythloni'n llwyddiannus, oherwydd mae'r tiwbiau sy'n cludo'r hadau yn gallu ail-gysylltu ar ôl y driniaeth. Gall fasectomi fethu'n syth neu rai blynyddoedd ar ôl cael y driniaeth lawfeddygol. Ar ôl i fasectomi weithio (sef ar ôl cael dau brawf semen clir) mae rhyw 1 o bob 2,000 o fasectomis yn methu.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Dulliau atal cenhedlu eraill:
Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk

