Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Cynllunio teulu naturiol (CTN)

Cynllunio teulu naturiol (CTN)

Mae bod yn ymwybodol ynghylch eich ffrwythlondeb yn helpu chi adnabod cyfnodau ffrwythlon ac anffrwythlon yn ystod y gylchred fislifol, er mwyn gallu cynllunio neu osgoi mynd yn feichiog.

Mae'r cyfnod ffrwythlon yn parhau am ryw 8 - 9 diwrnod ym mhob cylchred (ac er bod yr wy ond yn byw am hyd at 24 awr, gall hadau fyw tu fewn i gorff y fenyw am hyd at 7 diwrnod). Mae wy yn cael ei ryddhau 12-16 diwrnod cyn y mislif nesaf, a gall cael rhyw cymaint â 7 diwrnod cyn rhyddhau'r wy olygu mynd yn feichiog.

Mae CTN yn gweithio wrth i gyplau nodi arwyddion ffrwythlondeb gwahanol er mwyn darganfod adegau ffrwythlon ac anffrwythlon y gylchred fislifol.

Y prif arwyddion ffrwythlondeb sy'n cael eu defnyddio yw:

  • Tymheredd y corff wrth ddeffro
  • Secretiadau cerfigol

a hefyd, er yn llai dibynnol:

  • Hyd y gylchred fislifol

Ar adegau ffrwythlon, ni ddylai menyw gael rhyw, neu dylai defnyddio dull atal cenhedlu arall, megis condom.

Beth yw'r manteision?

Mae'n dderbyniol i bobl o bob ffydd a diwylliant. Nid yw'n golygu defnyddio cemegau na dyfeisiau corfforol, a does dim sgil effeithiau corfforol. Rydych yn fwy ymwybodol o'ch ffrwythlondeb chi, a gall eich helpu i drafod eich ffrwythlondeb a'ch rhywioldeb.

Anfanteision

  • Mae'n cymryd 3 - 6 cylchred i ddysgu'n effeithiol
  • Mae angen cadw cofnodion dyddiol, ac er mwyn bod yn llwyddiannus
  • Bydd angen i chi a'ch partner fod yn llwyr ymroddedig i'r dull hwn.
  • Gall digwyddiadau megis salwch, straen, a theithio golygu fod arwyddion ffrwythlondeb yn anoddach i'w hadnabod.
  • Mae angen osgoi cyfathrach rywiol (neu dylid defnyddio dull rhwystrol megis condom) yn ystod yr adeg ffrwythlon
  • Nid yw'n amddiffyn yn erbyn heintiau a drosgwlyddir yn rhywiol.

Pwy sy'n gallu ei ddefnyddio?

Gall y rhan fwyaf o bobl ddefnyddio Cynllunio Teulu Naturiol mor bell â'u bod yn cael cyfarwyddiadau a chefnogaeth da.

Efallai y bydd angen mwy o amser i adnabod arwyddion ffrwythlondeb ar adegau penodol (e.e. ar ôl gorffen cymryd y bilsen, wrth roi'r fron, neu wrth agosáu at newid bywyd).

Ble mae cymorth gyda CTN ar gael?

Os ydych yn penderfynu defnyddio CTN, bydd angen cael hyd i rywun sy'n gallu dysgu chi sut i ddefnyddio'r dull yma. Nid yw meddygon teulu a chlinigau cynllunio teulu yn dysgu CTN fel arfer. Mae rhai athrawon yn codi tâl. Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth , neu os oes angen cymorth i gael hyd i athro yn eich ardal leol, cysylltwch â llinell gymorth yr FPA ar +44 (0)845 310 1334 neu â Fertility UK ar www.fertilityuk.org

Pa mor effeithiol yw?

Os am fod yn siwr fod CTN yn effeithiol er mwyn osgoi mynd yn feichiog, mae'n well cael eich dysgu gan athro sy'n arbenigo ym maes CTN. O ddilyn y gwersi a'r cyfarwyddiadau, gall dulliau CTN fod hyd at 98% effeithiol. Os nad yw cwpl yn dilyn cyfarwyddiadau CTN yn gywir, bydd mwy o fenywod yn mynd yn feichiog.

Mae rhai cyplau'n dewis cyfuno eu hymwybyddiaeth ynghylch ffrwythlondeb gyda dull atal cenhedlu rhwystrol megis condom.

Mae dyfeisiau ffrwythlondeb megis Persona hefyd ar gael. Mae'r rhain yn rhagweld adegau ffrwythlon ac anffrwythlon y gylchred fislifol. Trwy fonitro newidiadau mewn tymheredd, wrin a phoer. O ddilyn y cyfarwyddiadau mae Persona yn 94% effeithiol.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Other forms of contraception

Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk