Patshyn atal cenhedlu
Beth yw hwn a sut mae'n gweithio?
Mae'r patshyn atal cenhedlu Evra, sy'n cael ei wisgo gan y fenyw, yn batshyn tenau, llwydfelyn, gludiog sy'n rhyddhau dos dyddiol cyson o hormonau trwy'r croen i'r gwaed (sef oestrogen a phrogestin). Mae'n cael ei wisgo rhywle ar y corff sy'n lân, yn sych a heb flew (fel arfer ar y fraich, y ffolen neu'r abdomen isel). Ni ddylid gwisgo'r patshyn ar y fron, neu ar groen sydd â chlwyf neu lid, nac mewn man lle gall dillad tynn ei rwbio. Gellir newid lleoliad pob patshyn newydd er mwyn lleihau'r posibilrwydd o lid ar y croen.
Mae'r patshyn atal cenhedlu yn gweithio trwy atal yr ofarïau rhag ryddhau wy bob mis.
Sut mae eu defnyddio?
Mae pob patshyn yn parhau am 7 diwrnod, ac mae'n cael ei dynnu ar ôl hynny, a dylid gosod un newydd yn syth. Dyma'r "diwrnod newid" ac mae'n digwydd ar ddydd 8 a dydd 15 o'r gylchred. Ar ôl 3 wythnos byddwch yn cael wythnos heb wisgo patshyn, gan gychwyn ar ddiwrnod 22. Yn ystod yr wythnos hon, byddwch yn gwaedu (yn cael mislif). Ar ôl 7 diwrnod o beidio â gwisgo patshyn, mae'r gylchred yn ail-ddechrau.
Mae'r patshyn yn ludiog iawn, a dylai aros ar y croen wrth gael bath, nofio, cymryd sawna ac ymarfer corff. Os bydd yn llithro neu'n dod i ffwrdd, dylid ei roi yn ôl cyn gynted â phosibl (os mae dal yn ludiog) neu dylid defnyddio patshyn newydd. Os ydych wedi colli'r patshyn am lai na 24 awr nid oes angen dull atal cenhedlu ychwanegol. Os ydych wedi colli'r patshyn am fwy na 24 awr, yna bydd angen defnyddio dull atal cenhedlu ychwanegol am y 7 diwrnod nesaf, a dylid ystyried dull atal cenhedlu brys os oes angen.
Beth yw'r manteision?
Mae angen cofio ei newid unwaith yr wythnos yn unig, mae'n hawdd i'w ddefnyddio, ac nid yw'n amharu ar ryw.
Sgil effeithiau posibl
Mae rhai o'r anfanteision fel a ganlyn:
- gall fod yn weladwy
- gall ar adegau achosi llid ar y croen
- nid yw'n amddiffyn yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Mae rhai sgil effeithiau posibl o ddefnyddio'r patshyn (sy'n debyg i sgil effeithiau defnyddio'r bilsen gyfunol), ond dylai'r rhain ond parhau am ychydig o fisoedd ar y mwyaf:
- cur pen
- cyfog
- bronnau'n teimlo'n dendr
- gwaedu rhwng mislifoedd
- hwyliau ansad
- colli neu ennill pwysau.
Ble maen nhw ar gael?
Mae'r patshyn atal cenhedlu ar gael ar y GIG.
Pa mor effeithiol yw?
Trwy ei ddefnyddio'n gywir a dilyn y cyfarwyddiadau:
Mae'r patshyn atal cenhedlu dros 99% effeithiol.
Mae ymchwil wedi dangos nad yw'r patshyn mor effeithiol mewn menywod sydd dros 90 cilogram (14 stôn). Gall rhai cyffuriau ar bresgripsiwn a chyffuriau cyflenwol (e.e. St John's Wort) effeithio ar effeithiolrwydd y patshyn.
Os daw'r patshyn i ffwrdd am dros 24 awr, bydd angen defnyddio dull atal cenhedlu arall am y saith diwrnod nesaf, a dylid ystyried defnyddio dull atal cenhedlu brys os oes angen.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Dulliau atal cenhedlu eraill:
Addaswyd o wybodaeth a gynhyrchwyd gan yr FPA - www.fpa.org.uk

