Y bilsen progestin yn unig (POP)
Beth yw hwn, a sut mae'n gweithio?
Mae'r bilsen hon yn cynnwys progestin yn unig, ac mae'n gweithio yn bennaf trwy wneud mwcws o geg groth y fenyw yn fwy trwchus, sydd wedyn yn ei gwneud yn anoddach i'r hadau gyrraedd wy. Mae hefyd yn achosi newidiadau yng nghorff y fenyw, sy'n golygu fod y groth yn llai tebygol o dderbyn wy wedi'i ffrwythloni, ac weithiau mae'n atal ofarïau'r fenyw rhag rhyddhau wy.
Ble maent ar gael?
Meddygon Cynllunio Teulu, nyrsys a'r rhan fwyaf o Feddygon Teulu.
I gychwyn, byddwch yn cael cyflenwad tri mis i weld a yw'r bilsen yn siwtio chi. Ar ôl hynny, bydd angen i chi fynd yn ôl at y meddyg neu'r nyrs yn rheolaidd i gael mwy o bils ac i wirio pwysedd eich gwaed.
Pwy sy'n cael eu defnyddio?
Nid yw pawb yn gallu cymryd y bilsen progestin yn unig, a bydd meddyg neu nyrs yn gofyn hanes eich iechyd chi a hanes iechyd eich teulu. Dylech sôn am unrhyw salwch neu lawdriniaeth a gafwyd yn y gorffennol.
Pa mor effeithiol yw'r bilsen hon?
Trwy ei defnyddio yn ôl y cyfarwyddiadau:
- Mae'r bilsen progestin yn unig yn 99% effeithiol
Gall y bilsen hon fod yn llai effeithiol i fenywod sydd dros 70 cilogram (11 stôn). Er mwyn bod yn effeithiol, mae'n rhaid cymryd y bilsen progestin yn unig tua'r un amser bob diwrnod. Os ydych yn sâl, neu yn dioddef o ddolur rhydd difrifol o fewn tair awr o gymryd y bilsen, bydd angen defnyddio dull ychwanegol o atal cenhedlu (e.e. condom) tra'n sâl ac am saith diwrnod ar ôl hynny.
Hefyd, mae rhai mathau o feddyginiaethau (gan gynnwys meddyginiaethau cyflenwol) yn gallu effeithio ar y bilsen, felly efallai y bydd angen ystyried defnyddio dull atal cenhedlu ychwanegol wrth gymryd y ffisig, ac am gyfnod o 7 diwrnod ar ôl hynny.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

