Disgwyl babi
Prydain sydd â'r nifer fwyaf o blant yn eu harddegau'n disgwyl o fewn Ewrop gyfan. Os nad ydych chi a'ch partner yn barod i gael babi eto, mae angen i chi ddefnyddio dull atal cenhedlu dibynadwy bob tro 'dach chi'n cael rhyw.
Gall merch feichiogi os mae hi'n cael rhyw heb ddefnyddio dull atal cenhedlu, neu os bydd rhywbeth yn atal y dull atal cenhedlu rhag weithio'n iawn (e.e. anghofio cymryd pilsen, neu os bydd condom yn hollti neu'n dod i ffwrdd).
Mae nifer o chwedlau ynghylch sut y gall merch feichiogi. Dyma rai ffeithiau.
Gall merch feichiogi hyd yn oed:
- Os mai dyma'r tro cyntaf iddi gael rhyw
- Os mae hi'n cael rhyw tra mae'n sefyll
- Os mae hi'n cael rhyw yn ystod ei mislif
- Os mae hi'n ymolchi syth ar ôl cael rhyw
- Os nad yw'n cael uchafbwynt
- Os bydd y dyn yn tynnu ei bidyn allan cyn alldaflu ("dod")
Er na fydd unrhyw ddull atal cenhedlu yn amddiffyn chi 100% yn erbyn beichiogi, mae pob un o'r dulliau atal cenhedlu sydd ar gael yn y DU yn effeithiol iawn o'u defnyddio yn y ffordd gywir ac yn gyson.
Os ydych yn credu y gallech fod yn feichiog, y peth cyntaf i'w wneud yw sicrhau os ydych ai peidio - ewch at yr adran beichiog? i weld sut i wneud hyn.
Os ydych wedi darganfod eich bod yn disgwyl, ac nid yw'n fwriadol, ewch at yr adran gwneud dewis, sy'n trafod yr opsiynau posibl i chi.
Yn olaf, mae'r adran iechyd a disgwyl yn cynnwys gwybodaeth ar sut i gadw'n iach tra rydych yn disgwyl, ac yn delio gyda materion megis ysmygu, yfed alcohol a bwyta tra rydych yn disgwyl.

