Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Gwneud dewis

Gwneud dewis

Efallai eich bod yn hapus dros ben i ddysgu eich bod yn disgwyl. Os felly, ewch at yr adran iechyd a disgwyl fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar fwyta'n iach, ymarfer corff, ysmygu, alcohol a chyffuriau/meddyginiaethau tra rydych yn disgwyl.

Fodd bynnag, os nag oeddech yn bwriadu cael babi, ac rydych yn anhapus ynghylch y canlyniad positif, mae penderfyniad anodd o'ch blaen mewn perthynas â'r camau nesaf.

Mae tri dewis sylfaenol yn eich wynebu. Mae i bob dewis goblygiadau gwahanol i chi a'r bobl o'ch cwmpas. Am fwy o wybodaeth ar bob un o'r dewisiadau, cliciwch ar y linc isod:

Efallai nad ydych yn siwr sut ydych yn teimlo ynglyn â bod yn feichiog, ac yn cael trafferth penderfynu beth i'w wneud - efallai eich bod yn teimlo wedi drysu, yn ofnus neu'n unig. Efallai y bydd pethau'n fwy amlwg os byddwch yn gwneud nodyn o'ch teimladau, ac yna eu hystyried ymhellach. Bydd angen ystyried y tri dewis sylfaenol sy'n wynebu chi - mabwysiadau, erthyliad, neu barhau â'r beichiogrwydd. Bydd angen meddwl am bob dewis, sut mae'n gwneud i chi deimlo a pham.

Bydd angen cefnogaeth arnoch yn ystod y broses yma. Os nad ydych eisoes wedi gwneud, dylech ddweud wrth eich partner i weld beth yw ei farn ef ar y sefyllfa. Yna, efallai yr hoffech drafod y sefyllfa gydag aelod arall o'r teulu neu â ffrind sy'n ennyn eich ffydd chi. Fel arall, byddai doctor, nyrs, neu glinigwr cynllunio teulu yn gallu helpu chi benderfynu ar yr hyn sydd orau i chi. Gellir hefyd cysylltu â'r bpas (yr enw newydd ar y British Pregnancy Advisory Service) yn ddienw ar 08457 30 40 30 i ofyn am gyngor ac arweiniad.

Peidiwch ag oedi gwneud y penderfyniad. Beth bynnag fydd eich penderfyniad, mae'n bwysig eich bod yn gweld eich meddyg, neu weithiwr proffesiynol arall ym maes gofal iechyd, cyn gynted â phosibl, er mwyn trefnu gofal meddygol addas i chi.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »