Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

babi

Parhau â'r beichiogrwydd a rhoi'r babi i'w fabwysiadu

Beth yw mabwysiadu?

Proses gyfreithiol yw mabwysiadu lle mae cyfrifoldebau rhiant/rhieni biolegol plentyn neu blant yn cael eu trosglwyddo i'r rhiant/rhieni sy'n mabwysiadu. Mewn achosion lle nad yw plentyn yn gallu aros gyda'i rhiant/rhieni biolegol, bydd plentyn yn cael teulu parhaol lle mae'n perthyn wrth gael ei fabwysiadu. Ar ôl i lys roi Gorchymyn Mabwysiadu, mae'r trefniadau wedyn yn gyfreithiol, ac ar ôl ei roi, nid yw'n bosibl ei ddiddymu.

Ble mae gwybodaeth ar fabwysiadu ar gael?

Os ydych yn ystyried rhoi plentyn i'w fabwysiadu, mae'n bwysig eich bod yn deall goblygiadau hyn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol a/neu asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol sy'n trefnu mabwysiadau. Mae gweithwyr cymdeithasol yn rhan o'r holl gyrff hyn, a byddant yn gallu trafod y broses o fabwysiadu gyda chi. Mae'r rhan fwyaf o ysbytai hefyd yn cyflogi gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda'r clinigau mamolaeth, a bydden nhw hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi.

Os bydd awdurdod lleol wedi penderfynu mai'r peth gorau i'ch plentyn chi yw iddo gael ei fabwysiadu, yna dylech fod yn siwr eich bod yn deall pam eu bod wedi penderfynu hyn, a bod eich sylwadau chi wedi cael eu cyflwyno iddynt. Dylech siarad â'r gweithiwr cymdeithasol sy'n gyfrifol am eich plentyn chi, â'ch cynrychiolydd cyfreithiol a rhywun annibynnol ac sy'n gallu rhoi cefnogaeth i chi yn ystod y broses.

Mae'r BAAF (British Association for Adoption and Fostering) yn cyhoeddi cyfres o Daflenni Cyngor sydd ar gael o Adran Gyhoeddiadau gwefan y BAAF (www.baaf.org.uk) yn rhad iawn. Efallai y bydd y Taflenni Cyngor canlynol o ddefnydd penodol i chi:

  • Pregnant and thinking about adoption? - ffeithiau am fabwysiadau a phethau i'w hystyried wrth benderfynu rhoi babi i'w fabwysiadu. Hefyd yn cynnwys rhestr ddefnyddiol o ffynonellau gwybodaeth a chymorth.
  • If your child is being adopted - sy'n esbonio sut mae mabwysiadu'n gweithio, rolau, dyletswyddau a chyfrifoldebau pawb sy'n rhan o'r broses, a phwyntiau dylai rhieni biolegol eu hystyried ynghylch effaith mabwysiadu'r plentyn arnynt rwan ac yn y dyfodol.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Gyda diolchiadau i BAAF (British Association for Adoption and Fostering) am eu cymorth gyda'r adran hon.