Iechyd a disgwyl
Yn ystod y cyfnod rydych yn disgwyl, mae'n bwysig gofalu am eich iechyd chi ac iechyd eich babi.
Dylai menyw sy'n disgwyl cymryd tabled 400 meicrogram o asid ffolig bob dydd hyd at 12fed wythnos y beichiogrwydd, er mwyn atal spina bifida a phroblemau cysylltiedig eraill. Mae asid ffolig yn dod o lysiau gwyrdd tywyll (ond peidiwch â'u gor-goginio oherwydd dyna'r ffordd i ddinistrio'r fitaminau), orennau, bara gwenith cyflawn a rhai grawnfwydydd brecwast. Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych yn bwyta llawer o'r bwydydd hyn yn barod, dylech gymryd y dabled i wneud yn siwr eich bod yn cael digon.
Cliciwch ar y penawdau isod i weld beth arall y gellir ei wneud er mwyn sicrhau eich bod yn cadw'n iach tra rydych yn disgwyl.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

