Anifeiliaid / anifeiliaid anwes a disgwyl
Dim bwys pa mor lân mae'ch anifail anwes chi yn eich barn chi, mae dal yn bosibl dal heintiau gan anifeiliaid sy'n gallu effeithio ar y babi yn y groth. Er bod heintiau felly'n anarferol, mae'n bwysig bod yn hynod ofalus tra rydych yn disgwyl. Dylid dilyn y cyngor canlynol felly mewn perthynas â chyswllt gydag anifeiliaid anwes neu anifeiliaid tra rydych yn feichiog:
- Dylech olchi eich dwylo'n drwyadl ar ôl cyffwrdd ag unrhyw anifeiliaid.
- Cadwch anifeiliaid anwes i ffwrdd o unrhyw fannau rydych yn eu defnyddio i baratoi bwyd, a gorau oll os gallwch eu cadw allan o'r gegin yn gyfan gwbl.
- Dylech lanhau dysglau bwyd anifeiliaid anwes ar wahân i rai chi'ch hunan.
- Baw cathod - mae'n bosibl fod organeb yn y baw sy'n achosi haint fyddai'n gallu niweidio eich plentyn yn y groth. Os oes gennych gath neu gath fach, dylech gadw bocs baw'r gath yn lân (dylid gwagio'r baw o fewn 24 awr). Os yn bosibl, gofynnwch i rywun arall gwagio a glanhau'r bocs baw cath. Os nad yw hyn yn bosibl, ac mae'n rhaid i chi wagio'r bocs eich hunan, dylech wisgo menig rwber tafladwy bob tro. Dylech lapio cynnwys y bocs mewn papur newydd, a'i roi yn y bin sbwriel. Yna dylech olchi'r menig rwber a'ch dwylo'n drwyadl.
- Dylech wastad wisgo menig os ydych yn garddio - hyd yn oed os nad oes gennych gath eich hunan - mae'n bosibl fod anifail wedi halogi eich gardd chi. Dylech wastad olchi eich dwylo ar ôl garddio, hyd yn oed os oeddech yn gwisgo menig.
- Gall defaid erthylu'n naturiol neu eni ar wyn sy'n sâl yn dilyn haint. Gall hyn arwain at haint i fenyw sy'n disgwyl, niwed i'r babi yn y groth, neu erthyliad naturiol. Dylech osgoi unrhyw gyswllt agos ag wyn a defaid.
- helpu gyda'r wyna
- godro defaid
- trin wyn newydd eu geni neu rhai a gollwyd yn dilyn erthyliad naturiol
- cyffwrdd â'r brych
- cyffwrdd â defaid sydd newydd gael wyn neu sydd wedi cael erthyliad naturiol
- trin esgidiau neu ddillad mae pobl eraill wedi'u gwisgo yn ystod wyna - ni ddylid dod â'r rhain i'r ty, ond dylent gael eu glanhau tu allan (gan rywun arall).
Yn ystod eich beichiogrwydd PEIDIWCH Â:
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Yn seiliedig ar wybodaeth o'r daflen, "While you are pregnant: how to avoid infection from food and from contact with animals", a gynhyrchwyd gan Swyddfa Gymreig y Swyddfa Wybodaeth Ganolog.

