Pils / meddyginiaethau / cyffuriau a disgwyl
Mae rhai pils a meddyginiaethau yn gallu niweidio iechyd eich babi, felly er mwyn aros yn ddiogel, dylech:
- Gymryd yn ganiataol fod unrhyw feddyginiaeth yn beryglus nes i ddoctor neu fferyllydd gadarnhau ei bod yn ddiogel;
- Gwneud yn siwr fod eich doctor neu ddeintydd yn gwybod eich bod yn disgwyl cyn rhoi unrhyw bresgripsiwn neu driniaeth i chi;
- Trafod, ar y cyfle cyntaf posibl, unrhyw feddyginiaeth rydych yn ei gymryd gyda'ch doctor.
Ond cofiwch ei fod yn fwy diogel cymryd rhai meddyginiaethau penodol, er enghraifft y rhai sy'n cael du defnyddio i drin epilepsi a diabetes, na pheidio cymryd meddyginiaethau ar gyfer y salwch.
Gall cyffuriau anghyfreithlon (cyffuriau stryd) niweidio eich babi. Bydd cymryd cocên neu ysmygu crac yn hynod niweidiol oherwydd mae'r ddau yn achosi cwymp sydyn yn lefelau'r gwaed a'r ocsigen yn y brych. Mae'n bwysig trafod gyda'ch doctor neu'ch bydwraig ar unwaith er mwyn iddynt eich cyfeirio at raglen cymorth briodol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r National Drugs Helpline ar 0800 776600.
Dylech osgoi cael Pelydr-x os yn bosibl tra rydych yn disgwyl. Gwnewch yn siwr fod eich deintydd yn gwybod eich bod yn disgwyl.
Meddyginiaethau llysieuol a homeopathig ac aromatherapi
Nid yw pob meddyginiaeth 'naturiol' yn ddiogel os ydych yn feichiog. Gwnewch yn siwr fod yr ymarferydd yn un trwyddedig (cysylltwch â'r Institute for Complementary Medicine i wneud yn siwr - Gwefan: Ffôn: 020 7237 5165) a chofiwch ddweud wrtho/wrthi eich bod yn disgwyl. Dwedwch wrth eich bydwraig neu ddoctor pa feddyginiaethau rydych yn eu defnyddio.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Reproduced from the Pregnancy Notes, with kind permission from the Perinatal Institute (www.perinatal.nhs.uk)

