Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Bwyta a disgwyl

Mae'n bwysig iawn eich bod yn bwyta diet cytbwys iachus tra rydych yn disgwyl - er mwyn helpu i'ch babi datblygu a thyfu, ac i chi gadw'n ffit ac yn iach ac i gynnal lefelau egni.

Nid yw bwyta'n iach yn golygu mynd ar ddiet arbennig - mae'n golygu yn hytrach eich bod yn bwyta bwydydd amrywiol bob dydd er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch babi yn cael yr holl fwynau angenrheidiol. Gweler yr adran Bwyta'n Iach am gyngor cyffredinol ar ddiet cytbwys, neu gallwch ofyn i'ch doctor, nyrs neu ymwelydd iechyd am gyngor.

Os ydych ar ddiet cyfyngedig (e.e. heb glwten neu fegan), efallai y byddai o les cael cyngor ychwanegol ar sut i fwyta'n iach tra rydych yn disgwyl. Byddai'n syniad trafod hyn gyda'ch doctor, fydd efallai yn eich cyfeirio at ddietegydd.

Cliciwch ar y blychau isod i gael gwybodaeth ynghylch bwydydd penodol y dylid eu hosgoi neu sydd angen eu coginio'n ofalus tra rydych yn disgwyl:

Caws / pate:

caws

Gellir bwyta caws caled (e.e. Cheddar), caws colfran, caws wedi'i brosesu a phast caws yn ddiogel tra rydych yn disgwyl.

Fodd bynnag, dylech osgoi mathau o gaws meddal aeddfed (e.e. Brie, Camembert), neu fathau o gaws â gwythiennau glas, neu gaws a gynhyrchwyd o laeth geifr neu ddefaid, oherwydd perygl Listeria. Yn yr un ffordd, gall pâté hefyd gynnwys lefelau uchel o Listeria, felly dylid osgoi pob math o pâté tra rydych yn disgwyl.

Does dim angen i chi osgoi'r bwydydd hyn nes eich bod yn sicr eich bod yn disgwyl, nac ar ôl geni'r babi, hyd yn oed os ydych yn rhoi'r fron.

Haint anghyffredin iawn yw Listeriosis, ond gall dos ysgafn iawn (sy'n debyg i'r ffliw) achosi erthyliad naturiol, marw-enedigaeth neu salwch difrifol i fabi newydd ei eni.

Llaeth

Peidiwch ag yfed llaeth yn syth o'r fuwch, o ddefaid neu eifr, oherwydd nid yw'r llaeth wedi bod drwy'r broses gynhesu, a gall cynnwys bacteria ac organebau eraill sy'n gallu arwain at salwch. Dylid osgoi unrhyw risg trwy yfed llaeth pasteureiddiedig, llaeth wedi'i sterileiddio neu laeth UHT.

Wyau

Wyau

Gall fod bacteria Salmonela, sy'n achosi salwch a dolur rhydd, mewn wyau. Er na fydd Salmonellosis yn cael effaith uniongyrchol ar y babi yn y groth, mae'n gallu bod yn salwch cas iawn, ac felly'r peth gorau yw ceisio osgoi'r salwch tra rydych yn disgwyl.

Tra rydych yn disgwyl, dylech ond fwyta wyau sydd wedi cael eu coginio nes bo gwyn yr wy a'r melynwy yn galed. Dylech wastad osgoi wyau amrwd neu fwydydd sy'n cynnwys wyau amrwd (e.e. mousses, mayonnaise cartref ac ati).

Gallwch fwyta nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu'n fasnachol megis mayonnaise mewn potel, oherwydd defnyddir wyau pasteureiddiedig i'w cynhyrchu. Mae rhai siopau'n gwerthu cynnyrch wyau pasteureiddiedig (naill ai fel hylif neu'n sych i'w ddefnyddio adref). Gellir defnyddio'r nwyddau hyn yn hollol ddiogel mewn ryseitiau fyddai fel arall yn golygu defnyddio wyau amrwd neu wyau wedi'u coginio'n rhannol. Ar ôl eu hagor, neu ar ôl eu cymysgu, dylid defnyddio'r cynnyrch hyn fel un ffres, a'i ddefnyddio ar unwaith, neu ei gadw mewn oergell nes bo'i angen.

Cregynbysgod

Cregynbysgod

It is advisable to avoid oysters, prawns, mussels, crabs, and other shelled seafood, unless they are part of a hot meal and have been thoroughly cooked. When raw these foods may be contaminated with harmful bacteria and viruses.

Bwydydd parod oer a dofednod parod i'w fwyta

chicken leg

Mae listeria wedi cael ei ddarganfod mewn rhai bwydydd parod oer (heb eu rhewi), a dofednod parod i'w fwyta, fydd y cwsmer yn bwyta'n oer neu'n twymo adref. Felly, er mwyn aros yn iach, dylech dwymo'r bwydydd hyn yn drwyadl drwyddynt (nes eu bod yn chwilboeth), yn hytrach na'u bwyta'n oer neu'n llugoer.

Dofednod, cig a chynnyrch cig

meatloaf

Dylech osgoi iau neu gynnyrch iau (e.e. pâté iau neu selsig iau) oherwydd mae'n bosibl eu bod yn cynnwys llawer o fitamin A, a gall gormod o'r fitamin yma achosi niwed i'ch babi.

chicken leg

Mae'n bosibl fod dofednod a chig amrwd yn cynnwys bacteria sy'n gallu achosi gwenwyn bwyd. Gall cig amrwd hefyd cynnwys Toxoplasma, organeb sy'n gallu, mewn achosion prin, effeithio ar y babi yn y groth.

Wrth i chi goginio cig ar dymheredd uchel bydd y bacteria a'r Toxoplasma yn cael eu lladd, felly dylech goginio unrhyw ddofednod a chig (gan gynnwys byrgyrs a selsig) nes bo'r hylif sy'n dod allan o'r cig yn glir, a does dim gwaed na lliw pinc ar ôl. Ar ôl trin a pharatoi cig a dofednod amrwd, dylech olchi'ch dwylo a'r mannau paratoi bwyd yn drwyadl.

Ffrwythau, llysiau a bwydydd salad

ffrwythau

Dylech wastad olchi'r pethau hyn yn ofalus iawn er mwyn cael gwared ag unrhyw bridd neu faw - lle byddai bacteria neu organebau eraill yn byw. Gwnewch yn siwr hefyd eich bod yn golchi unrhyw bridd o'ch dwylo a mannau paratoi bwyd.

Cnau mwnci

Cnau mwnci

Dylech osgoi bwyta cnau mwnci a bwydydd sy'n cynnwys cynnyrch cnau mwnci os ydych chi, neu dad y babi, neu unrhyw blant blaenorol, wedi dioddef o glefyd y gwair, asthma, ecsema neu alergeddau eraill. Gall hyn leihau'r tebygolrwydd y bydd y babi'n datblygu alergedd, fyddai efallai'n ddifrifol, i gnau mwnci.

Hints & tips

  • Dylech gadw bwydydd amrwd a bwydydd wedi'u coginio ar wahân. Dylech gadw cig a dofednod amrwd ar silff waelod yr oergell mewn bocs â chlawr er mwyn atal hylif rhag ddiferu ar ben bwydydd eraill.
  • Dylech olchi'ch dwylo cyn ac ar ôl paratoi bwyd (yn enwedig cig neu ddofednod amrwd, llysiau a bwydydd salad sydd â phridd arnynt).
  • Peidiwch â bwyta wyau amrwd neu wyau wedi'u coginio'n rhannol a pheidiwch â'u defnyddio mewn ryseitiau lle nad oes angen coginio (defnyddiwch wyau wedi'u sychu neu rhai pasteureiddedig yn lle).
  • Dylech ddefnyddio byrddau torri gwahanol i baratoi cig/dofednod amrwd a bwydydd eraill. Dylech olchi'r byrddau, y cyllyll a'ch dwylo'n ofalus rhwng y camau paratoi gwahanol.
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn coginio'r holl gig a dofednod yn drwyadl.
  • Os ydych yn bwyta allan (mewn ty ffrind, partïon, barbiciw, bwytai, tafarndai ac ati) gwnewch yn siwr fod unrhyw gig neu ddofednod wedi cael ei goginio'n drwyadl a bod y bwyd yn chwilboeth.
  • Wrth ailgynhesu bwydydd, gwnewch yn siwr fod y bwyd yn chwilboeth drwyddo.
  • Peidiwch â bwyta bwydydd sydd wedi mynd heibio dyddiad "defnyddio erbyn" y gwneuthurwr.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Yn seiliedig ar wybodaeth a gymerwyd o'r daflen, "While you are pregnant: how to avoid infection from food and from contact with animals", a gynhyrchwyd ar gyfer y Swyddfa Gymreig gan y Swyddfa Wybodaeth Ganolog.