Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Ymarfer corff a disgwyl

Ymarfer corff a disgwyl

Trwy gadw'n weithgar ac yn ffit tra rydych yn disgwyl, bydd yn haws addasu wrth i'ch siâp newid ac wrth i chi ennill pwysau. Bydd hefyd yn help i chi wrth eni'r plentyn, ac i gael eich siâp yn ôl ar ôl y geni.

Os ydych yn teimlo dan straen ar ôl diwrnod caled o waith, mae gweithgaredd corfforol yn ffordd wych i ymlacio, a byddwch yn cysgu'n well hefyd.

Dylech barhau i wneud gweithgareddau corfforol dyddiol arferol neu ymarfer corff (chwaraeon, neu ddawnsio, neu gerdded i'r siopau ac yn ôl) mor bell â'ch bod chi'n teimlo'n gyfforddus. Peidiwch â gorflino, a chofiwch y bydd angen arafu wrth i chi nesáu at eni'r babi, neu os bydd eich doctor yn eich cynghori i wneud. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech eu trafod gyda'ch doctor neu fydwraig.

  • Os nad oeddech yn weithgar cyn eich bod yn feichiog, peidiwch â dechrau ar ryw ymarfer corff egnïol dros nos. Cofiwch, does dim rhaid i ymarfer corff fod yn egnïol er mwyn bod o fudd.
  • Ceisiwch gadw'n weithgar bob dydd. Trwy gerdded am ryw hanner awr fel rhan o'ch arfer, byddwch yn cadw'n weithgar. Os nad ydych yn gallu gwneud hynny, mae rhywfaint yn well na dim.
  • Ni ddylech wneud unrhyw ymarfer corff egnïol pan mae'r tywydd yn boeth.
  • Dylech yfed ddigon.
  • Os byddwch yn mynd i ddosbarth ymarfer corff, gwnewch yn siwr fod yr athro[awes] yn un trwyddedig, ac yn gwybod eich bod yn feichiog, a pha mor fuan y bydd y babi'n cael ei [g]eni.
  • Efallai yr hoffech roi cynnig ar nofio, oherwydd bydd y dwr yn helpu cynnal eich pwysau wrth iddynt gynyddu. Mae rhai pyllau nofio lleol yn trefnu dosbarthiadau i fenywod beichiog gydag athrawon trwyddedig.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Reproduced from the Pregnancy Notes, with kind permission from the Perinatal Institute (www.perinatal.nhs.uk)