Ysmygu a disgwyl
Mae ysmygu yn gwneud niwed i'ch babi, ac mae'n gwneud niwed i'ch iechyd chi hefyd. Dyma amser gwych i ystyried rhoi'r gorau i ysmygu.
Wrth i chi anadlu'r mwg, rydych yn cymryd dros 4000 o gemegau i mewn i'ch corff, gan gynnwys tar a charbon monocsid. Mae'r carbon monocsid yn mynd i lif eich gwaed ac yn lleihau faint o ocsigen sy'n mynd i'ch babi. Os taw mam y babi ydych, dylech fod yn ymwybodol faint o niwed mae ysmygu yn gwneud i chi ac i'ch babi yn y groth.
Os taw tad y babi, ydych chi, efallai eich bod yn meddwl nad oes rheswm i chi roi'r gorau i ysmygu, oherwydd nid chi sy'n disgwyl y babi. Os felly, rydych yn anghywir. Gall ysmygu goddefol achosi cymhlethdodau i fenywod tra maent yn disgwyl. Mae ysmygu goddefol yn beryglus oherwydd mae nwyon a chemegau peryglus yn cael eu trosglwyddo i'ch partner ac i'r babi yn y groth.
Ewch at y tudalennau mam y plentyn a tad y plentyn am fwy o wybodaeth ynghylch pam dylech roi'r gorau i ysmygu.
Os ydych eisoes wedi penderfynu eich bod am roi'r gorau i ysmygu, ewch at yr adran ysmygu am fwy o wybodaeth ar sut i roi'r gorau iddo, atebion i unrhyw bryderon ynghylch rhoi'r gorau iddo sydd gennych efallai, a sut y gall therapi amnewid nicotin fod o gymorth i chi.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Yn seiliedig ar wybodaeth a gymerwyd (gyda chaniatâd) oddi wrth "S is for Smoking & Pregnancy" a "P is for Protecting Babies & Children From Secondhand Smoke" a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

