Beichiog?
Ymysg arwyddion cynnar beichiogrwydd mae:
- Mislif hwyr
- Bronnau'n teimlo'n dendr/pigo
- Teimlo'n sâl
- Rhwymedd
- Blinder
- Poenau yn y stumog
- Angen gwneud pi-pi'n amlach
- Arllwysiad o'r wain yn cynyddu
- Diflasu ar rai bwydydd (megis bwydydd seimlyd)
- Diflasu ar rai diodydd (megis coffi)
- Diflasu ar rai arogleuon (megis mwg sigarennau)
Y ffordd gyflymaf a mwyaf dibynadwy i gadarnhau os ydych yn disgwyl ai peidio, yw trwy wneud Prawf Beichiogrwydd. Gellir prynu'r rhain dros y cownter yn y fferyllydd, yn yr archfarchnad, neu dros y Rhyngrwyd, ac maent yn hawdd iawn i'w defnyddio. Mae rhai Meddygon Teulu, clinigau cynllunio teulu a rhai gwasanaethau pobl ifanc (e.e. Canolfannau Brook) yn cynnig Profion Beichiogrwydd am ddim.
Fel arfer mae Prawf Beichiogrwydd yn cynnwys ffon blastig gyda ffenest fach arni, ac mae'n gweithio drwy ganfod hormon neilltuol yn eich wrin. Rydych yn gwneud pi-pi ar y ffon blastig, ac yna'n dibynnu ar y math o brawf, yn aros iddi newid lliw neu i linell lliw ymddangos yn y ffenest fach.
Gellir defnyddio Prawf Beichiogrwydd ar y diwrnod cyntaf roedd eich mislif i fod i ddechrau. O'u defnyddio'n gywir, mae'r Profion yn gywir iawn.
Beth ddylwn ei wneud os mae'r prawf yn negyddol?
Weithiau, mae'n bosibl i Brawf Beichiogrwydd dangos canlyniad "negyddol ffug". Os bydd y Prawf Beichiogrwydd yn dangos nad ydych yn feichiog, ond dyw'r mislif dal ddim yn digwydd, dylech gymryd Prawf Beichiogrwydd arall (mae rhai Profion Beichiogrwydd yn cynnwys dau becyn yn y bocs), neu ewch at y doctor.
Beth ddylwn ei wneud os mae'r prawf yn bositif?
Mae canlyniad positif yn gywir fwy na thebyg.
Os nad oeddech yn bwriadu cael babi, ac rydych yn anhapus â'r canlyniad positif, bydd angen i chi wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd ymlaen. Ewch at yr adran Gwneud Dewis am fwy o wybodaeth ar yr opsiynau posibl.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

