Trais ac ymosodiad
Mae cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gydag unrhyw un ar wahân i oedolyn sy'n rhoi ei ch(g)aniatâd ac sydd dros yr oed cydsynio cyfreithiol, yn drosedd. Mae gorfodi rhywun i gael rhyw yn drosedd. Gweler yr adran Rhyw - Y Gyfraith i ddysgu mwy am y gyfraith mewn perthynas â rhyw.
Gall unrhyw un gael ei th(d)reisio neu fod yn destun ymosodiad - yn ddyn neu'n ddynes, yn ifanc neu'n hen, er gwaethaf tueddfryd rhywiol neu darddiad ethnig. Mae'r rhain yn droseddau ofnadwy, ac yn brofiadau trawmatig sy'n peri trallod i'r dioddefwr.
Mae'r adran ar noson allan yn cynnwys syniadau ar bethau y gellir eu gwneud ar noson allan i ddiogelu dy hunan ac i leihau'r risg o gael dy dreisio neu o fod yn destun ymosodiad.
Mae'r nifer o bobl sy'n cael eu treisio tra dan ddylanwad cyffuriau yn cynyddu'n syfrdanol yn y DU. Mae'r adran ar drais dan ddylanwad cyffuriau yn cynnwys gwybodaeth ynghylch trais tra dan ddylanwad cyffuriau, a beth i'w wneud os wyt ti'n meddwl fod rhywun wedi rhoi cyffur yn dy ddiod.
Os wyt ti wedi cael dy dreisio, neu'n credu dy fod wedi cael dy dreisio, mae'r adran olaf, os mae'n digwydd i ti, yn cynnig cyngor ynghylch yr hyn dylid ei wneud, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd os wyt ti'n penderfynu mynd at yr heddlu i'w hysbysu am y drosedd.
Gall effeithiau trais neu ymosodiad effeithio ar y dioddefwr am gyfnod hir, ond does dim rhaid dioddef yn ddistaw. Mae llawer o fudiadau ar gael sy'n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth, hyd yn oed os nad yw'r profiad wedi digwydd yn ddiweddar. Un o'r ffyrdd gorau i dderbyn yr ymosodiad, yw trafod dy deimladau gyda rhywun sy'n ennyn dy ffydd di, rhywun fydd yn rhoi cymorth a dealltwriaeth i ti. Gweler yr adran manylion cyswllt am fwy o wybodaeth.

