Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

drinks and ashtray

Trais tra dan ddylanwad cyffuriau

Mae'r drosedd o drais tra dan ddylanwad cyffuriau yn un o'r troseddau sy'n dangos y cynnydd mwyaf yn y DU. Gall ddigwydd i ddynion neu i fenywod.

Mae llawer o gyffuriau gwahanol yn cael eu defnyddio i "dreisio" rhywun. Dau o'r rhai mwyaf cyffredin yw GHB (a'r enw arall arno yw "liquid ecstasy") a Rohypnol. Ond mae'n bwysig cofio nad cyffuriau anghyfreithlon neu gyffuriau a geir ar bresgripsiwn yn unig sy'n cael eu defnyddio gan dreiswyr i leihau gwrthwynebiad y dioddefwr - yn aml iawn mae alcohol yn cael ei ddefnyddio yn y cyswllt hefyd hwn.

Gall y cyffuriau sy'n cael eu defnyddio mewn trais tra dan ddylanwad cyffuriau'n gallu bod yn ddi-liw, yn ddiarogl ac yn ddi-flas. Golyga hyn ei fod bron yn amhosibl gwybod fod rhywun wedi gwneud rhywbeth i dy ddiod. Er hynny, gellir gwneud rhai pethau i leihau'r risg o gael dy dreisio tra dan ddylanwad cyffuriau. Gweler yr adran ar noson allan am fwy o wybodaeth ar sut i sicrhau noson bleserus ond diogel allan, a darllen yr wybodaeth yn y blwch isod i weld yr hyn dylid ei wneud os wyt ti'n credu fod rhywun wedi rhoi rhywbeth yn dy ddiod di.

Mae'r adran ar os mae'n digwydd i ti yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar yr hyn dylid ei wneud os wyt ti'n credu dy fod wedi cael dy dreisio.

Os wyt ti'n credu fod rhywun wedi rhoi cyffur yn dy ddiod:

  • Rwyt ti'n gwybod faint wyt ti'n gallu yfed. Os wyt ti'n teimlo'n rhyfedd, yn sâl, neu wedi meddwi ar ôl cwpl o ddiodydd yn unig, yna mae'n hynod bosibl fod rhywun wedi rhoi cyffur yn dy ddiod.
  • Os yn bosibl, ffonia ffrind, perthynas, rhiant neu bartner i ddod i nôl ti.
  • Ceisia gymorth ar unwaith gan ffrind rwyt yn ymddiried ynddo(i). Mae'n hanfodol dy fod yn ymddiried yn llwyr yn yr unigolyn rwyt ti'n mynd ato(i) am gymorth, dim bwys ers pryd rwyt ti'n ei (h)adnabod.
  • Mae'n bwysig iawn cyrraedd lle sy'n ddiogel cyn gynted â phosibl.
  • Os wyt ti wrth dy hunan neu gyda rhywun dieithr, cer at landlord neu reolwr y dafarn a gofyn am ei g(ch)ymorth. Dylet aros yn ei swyddfa tra maent yn ffonio dy rieni, ffrind neu dacsi i fynd â thi adref yn ddiogel. Os yn bosibl, gwna'n sïwr fod ffrind rwyt yn ymddiried ynddo(i) yn dod gyda thi.
  • PAID BYTH â gadael i rywun dieithr helpu ti (er mor ffein mae'n yn ymddangos) - efallai mai fo/hi sy'n gyfrifol am roi'r cyffur yn dy ddiod.

Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan The Roofie Foundation.
Gwefan: www.roofie.com. Llinell gymorth: 0800 783 2980.