Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Os mae'n digwydd i chi

Os ydych wedi cael eich treisio, mae'n bwysig eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae angen i chi ddweud wrth rywun sy'n ennyn eich ffydd chi, beth sydd wedi digwydd. Dylech wneud nodyn ysgrifenedig o bopeth rydych chi'n ei gofio - gan gynnwys amseroedd, dyddiadau, lleoedd, pobl, beth oedd pobl wedi dweud ac wedi gwisgo - dim bwys pa mor amwys mae'n ymddangos. Cewch ategu at yr wybodaeth wrth i chi gofio am bethau.

Efallai eich bod ond yn meddwl eich bod wedi cael eich treisio. Efallai bod hynny'n swnio'n rhyfedd, ond mae'r cyffuriau sy'n cael eu defnyddio mewn achosion o drais tra dan ddylanwad cyffuriau, yn gallu gwneud i chi anghofio pethau. Os ydych yn deffro mewn lle rhyfedd, neu hyd yn oed os ydych yn deffro yn eich gwely eich hunan, ac mae'ch dillad isaf ar hyd y lle yn yr ystafell, os oes unrhyw dystiolaeth gorfforol ar eich corff, os yw'ch organau cenhedlu yn boenus, neu wedi'u cleisio, mae'n bosibl eich bod wedi bod yn destun ymosodiad rhywiol.

Dylech hysbysu'r heddlu ynghylch yr ymosodiad, a byddant yn ceisio dod o hyd i'r unigolyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, a'i [d]dwyn gerbron y llys, yn ogystal â gwneud yn siwr eich bod yn cael cymaint o gefnogaeth ag sy'n bosibl, oddi wrth wasanaeth yr heddlu ac arbenigwyr eraill.

Hyd yn oed os oedd yr ymosodiad wedi digwydd blynyddoedd yn ôl, bydd yr heddlu yn cynnal ymchwiliad i'r drosedd yn eich erbyn, a byddant yn gallu helpu chi i gael hyd i wasanaeth cymorth arbenigol.

Mae adnabod yr unigolyn oedd wedi treisio chi ("trais cyfarwydd") yn gallu bod yn anodd, oherwydd mae'r unigolyn sydd wedi bod yn destun yr ymosodiad yn beio ei hunan weithiau - maen nhw'n poeni eu bod wedi caniatáu i'r ymosodiad ddigwydd, oherwydd dylen nhw ddim wedi bod wrth ei hunan gyda'r treisiwr, neu dylen nhw ddim bod wedi derbyn y ddiod gyda chyffuriau ynddi, neu wedi ymddiried yn yr unigolyn yn y lle cyntaf. Neu maent yn poeni na fydd neb yn eu cymryd o ddifrif os byddant yn dweud wrth yr heddlu - yn enwedig os oeddent wedi cael perthynas rywiol gyda'r unigolyn dan sylw yn y gorffennol. Nid felly mae - does dim bai ar y dioddefwr, a bydd yr heddlu bob tro'n cymryd o ddifrif unrhyw adroddiadau o ymosodiad neu drais.

Mae'r heddlu hefyd yn awyddus i nodi na fyddant yn erlyn unrhyw un sy'n mynd atynt mewn perthynas â thrais tra dan ddylanwad cyffuriau, am gymryd cyffuriau.

Mae ymosodiad rhywiol a thrais yn droseddau difrifol, a bydd yr Heddlu WASTAD yn eich cymryd o ddifrif.

Dweud wrth yr heddlu am yr ymosodiad

  • Ewch yn syth at yr heddlu i'w hysbysu am yr ymosodiad. Yn ddelfrydol dylai unrhyw dystiolaeth fforensig cael ei chymryd o fewn 48 awr, ond mae dal yn bosibl ei chymryd dyddiau ar ôl hynny.
  • Dylech wneud pob ymdrech i beidio ag ymolchi neu newid eich dillad, oherwydd mae'n bosibl y gallwch golli tystiolaeth fforensig hollbwysig.
  • Ewch â dillad i newid gyda chi, oherwydd efallai y bydd yr heddlu am gadw eich dillad fel tystiolaeth.
  • Hyd yn oed os ydych wedi ymolchi, gallwch hysbysu'r heddlu am yr ymosodiad yr un fath - ewch â'r dillad roeddech yn eu gwisgo yn ystod yr ymosodiad gyda chi.
  • Gallwch ofyn i ffrind neu berthynas fynd at yr heddlu gyda chi.
  • Os ydych yn credu eich bod wedi bod yn destun trais tra dan ddylanwad cyffuriau, gofynnwch i'r heddlu gymryd samplau wrin a gwaed ar unwaith (mae effeithiau cyffuriau sy'n cael eu defnyddio er mwyn treisio yn diflannu'n sydyn).
  • Gyda'ch caniatâd chi, bydd yr heddlu yn trefnu i ddoctor roi archwiliad i chi er mwyn chwilio am dystiolaeth fforensig, ac i weld a oes angen triniaeth ar gyfer unrhyw anafiadau. Bydd y doctor wedi derbyn hyfforddiant arbennig ar gyfer y math hwn o archwiliad.
  • Bydd y doctor hefyd yn gallu cynnig cymorth, cyngor a phrofion, ac os oes angen, triniaeth ar gyfer Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Os ydych yn ferch, bydd y doctor hefyd yn trafod y posibilrwydd eich bod yn feichiog, ac os oes angen, ac os yn berthnasol, bydd yn cynnig dull atal cenhedlu brys (e.e. "y bilsen bore wedyn") ac unrhyw wybodaeth neu driniaeth feddygol addas arall.
  • Efallai y byddwch yn cael swyddog o'r heddlu i'ch "gwarchod" - bydd y swyddog yma wedi derbyn hyfforddiant arbennig er mwyn delio gyda'r math hyn o ddigwyddiad.
  • Efallai y bydd angen i'r heddlu dynnu ffotograffau o unrhyw friwiau, cleisiau neu anafiadau i'w defnyddio fel tystiolaeth - mae ffotograffwyr yr heddlu wedi cael hyfforddiant arbennig yn y maes yma er mwyn parchu'ch teimladau chi.
  • Yr heddlu sy'n gyfrifol am ymchwilio i'r drosedd yn eich erbyn chi, ac am ddod â'r treisiwr gerbron y llys. Byddant yn gofyn cwestiynau manwl i chi ynghylch yr ymosodiad. Er ei bod yn boenus neu'n achosi embaras i chi siarad am dano, mae'n bwysig eich bod yn ateb yr holl gwestiynau, ac yn dweud popeth wrth yr heddlu. Mae angen rhoi unrhyw wybodaeth posibl am yr ymosodwr i'r heddlu - sut roedd yn edrych neu'n swnio, dillad, oed ac ati, neu hyd yn oed os ydych yn ei [h]adnabod.
  • Bydd eich datganiad yn cael ei ysgrifennu allan i chi ei lofnodi. Os ydych o dan 18 oed, efallai y byddai'n well gan yr heddlu wneud recordiad o'ch datganiad ar fideo, fydd yn cael ei chwarae o flaen y llys wedyn efallai.
  • Mae'n bosibl eich bod eisoes yn adnabod y sawl oedd wedi ymosod arnoch. Fodd bynnag, os oedd yr ymosodwr yn ddieithr i chi, bydd yr heddlu yn gallu defnyddio dulliau gwahanol er mwyn i chi helpu nhw i adnabod yr ymosodwr - ymysg y technegau byddant yn eu defnyddio mae: dangos ffotograffau, creu braslun, ffoto-ffit neu fideo-ffit, neu, os bydd rhywun yn cael ei arestio, efallai y byddant yn gofyn i chi geisio ei adnabod mewn rhes adnabod.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Gyda diolchiadau i Project Sapphire (MET Police) am eu cymorth gyda'r adran hon.