Noson allan
Mae sawl peth y gellir eu gwneud ar noson allan i ddiogelu dy hunan ac i leihau'r tebygolrwydd o gael dy dreisio neu o fod yn destun ymosodiad:
Cyn mynd allan:
- Gwneud yn sïwr fod rhywun yn gwybod lle wyt ti'n mynd a faint o'r gloch fyddi di adref.
- Trefnu'r siwrnai oddi cartref ac yn ôl. Os wyt ti'n bwriadu defnyddio tacsi i ddod adref, dylet archebu un ymlaen llaw gyda chwmni tacsis rwyt ti'n gyfarwydd â nhw ac yn ymddiried ynddynt.
- Wrth fynd i dafarn, clwb neu barti, paid â mynd wrth dy hunan. Gall ffrindiau edrych ar ôl ei gilydd.
Yn ystod y noson:
- Mae alcohol yn effeithio ar y ffordd rwyt ti'n gweithredu, yn ymateb a'r gallu i fod yn wyliadwrus. Dylet geisio fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o'th gwmpas, a chadw draw o sefyllfaoedd nad wyt ti'n gyfforddus ynddynt.
- Penodi rhywun nad yw'n yfed alcohol (y gyrrwr a gytunwyd efallai) i "wylio'r diodydd".
- Edrych ar ôl dy ddiod. PAID BYTH Â:
- derbyn diod gan rywun nad yw'n ennyn dy ffydd di
- yfed diodydd heb eu gorffen, neu ddiodydd mae rhywun arall wedi'u gadael
- rhannu neu newid diodydd gyda rhywun arall
- gadael dy ddiod, hyd yn oed i fynd i'r toiled
- yfed diod rwyt ti wedi gadael, hyd yn oed os oedd hyn am eiliad yn unig.
- Cofia - hyd yn oed os nad wyt ti'n yfed alcohol, mae angen bod yr un mor ymwybodol o'r peryglon. Ceir adroddiadau am gyffuriau'n cael eu rhoi mewn diodydd dioddefwyr sydd wedi bod yn yfed te, coffi, ysgytlaethau, a diodydd swigod.
Ar ddiwedd y noson:
- Ystyried yn ofalus a ddylet adael y dafarn, y clwb neu'r parti gyda rhywun rwyt ti newydd gwrdd â nhw<./li>
- Paid â derbyn lifft adref gyda rhywun rwyt ti newydd gwrdd â nhw.
- Ceisia deithio gyda ffrindiau os yn bosibl.
- Os wyt ti wedi archebu tacsi i fynd â thi adref, gwna'n sïwr mai dyna'r car rwyt ti'n mynd iddo.
- Eistedd yng nghefn y car a chario ffôn symudol neu larwm personol gyda thi.
Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan The Roofie Foundation.
Gwefan: www.roofie.com. Llinell gymorth: 0800 783 2980.

