Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Rhyw - y gyfraith

Pam bod deddfau mewn perthynas â rhyw yn bodoli?

I ddiogelu pobl ifanc a'u hawliau, ac i'w wneud yn haws erlyn pobl sy'n rhoi pwysau ar neu'n gorfodi pobl eraill i gael rhyw. Mae gorfodi rhywun i gael rhyw yn drosedd.

DU

Beth yw ystyr "oed cydsynio cyfreithiol"?

Dyna'r oedran y gall unigolyn gael rhyw yn gyfreithlon.

Felly, beth yw'r oed cydsynio cyfreithiol?

Yr oedran cyfreithiol i ddyn a dynes, dau ddyn (sef rhyw "rhefrol" neu "hoyw"), neu dwy ddynes ("rhyw lesbiaidd") yw:

  • 16 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
  • 17 yng Ngogledd Iwerddon.

Beth sy'n digwydd os mae rhywun dan oed cydsynio cyfreithiol yn cael rhyw?

Mae unrhyw weithgaredd rhywiol rhwng pobl dan 16 oed yn anghyfreithlon. Felly, mae'n drosedd cael "rhyw gyda rhywun dan oed".

carchar

Ym Mai 2004, pasiwyd deddf newydd "Deddf Troseddau Rhywiol".

O dan y Ddeddf newydd:

  • Os bydd unigolyn (gwrywaidd neu fenywaidd) dros 10 oed yn cael unrhyw fath o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn (gwrywaidd neu fenywaidd) dan 13 oed, gall yr unigolyn sy'n cyflawni'r drosedd wynebu bywyd yn y carchar.
  • Os bydd unigolyn (gwrywaidd neu fenywaidd) dros 18 oed yn cael rhyw gyda pherson ifanc (gwrywaidd neu fenywaidd) rhwng 13 a 15 oed, gall yr unigolyn wynebu cyfnod o hyd at 14 blynedd yn y carchar.
  • Os bydd unigolyn (gwrywaidd neu fenywaidd) dan 18 oed yn cael rhyw gyda pherson ifanc (gwrywaidd neu fenywaidd) rhwng 13 a 15 oed, gall yr unigolyn wynebu cyfnod o hyd at 5 mlynedd yn y carchar.
  • Er ei fod yn anghyfreithlon, ni fydd gweithgaredd rhywiol cydsyniol rhwng dau berson ifanc dan 16 oed, o oedran tebyg, fel arfer yn arwain at erlyniad (oni bai fod bwlio, cam-drin neu gamddefnyddio yn rhan o'r gweithgaredd).

Ar ôl mynd dros oed cydsynio cyfreithiol, ydy hi'n iawn i gael rhyw?

Ar ôl cael pen-blwydd yn 16 (17 yng Ngogledd Iwerddon) mae'n gyfreithiol i ti gael rhyw gyda rhywun, ar wahân i rywun sydd "â swydd o ymddiriedaeth" drosot (e.e. dy athro, doctor neu rywun sy'n gofalu amdanat).

Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio nad oes rhaid i ti gael rhyw oherwydd ei fod yn gyfreithlon. Dylet gael rhyw pan wyt ti'n teimlo'n barod, ac ar ôl dysgu am ddulliau atal cenhedlu.