Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

rhywioldeb

Rhywioldeb

Diffiniadau

  • Cyfunrywiol = unigolyn sy'n cael ei ddenu'n rhywiol at unigolyn o'r un rhyw.
    Weithiau'n cael ei alw'n: "lesbiad" (menywod) / "hoyw" (dynion/menywod weithiau)
  • Heterorywiol = unigolyn sy'n cael ei ddenu'n rhywiol at bobl o'r rhyw arall.
    Weithiau'n cael ei alw'n: 'strêt'
  • Deurywiol = unigolyn sy'n cael ei ddenu at ddynion a menywod.
    Weithiau'n cael ei alw'n: 'bi'

Nid yw rhywun yn hoyw oherwydd ei fod yn meddwl bod rhywun o'r un rhyw yn ddeniadol. I lawer o bobl, mae hyn yn rhan o ddatblygiad rhywiol arferol, a byddant yn mynd ymlaen i feithrin perthynas gyda rhywun o'r rhyw arall.

Gall amheuon ynghylch rhywioldeb godi ar unrhyw adeg yn ystod bywyd unigolyn, ac afrealistig ydy meddwl fod unrhyw batrwm penodol o ymddygiad rhywiol yn "arferol".

Mae rhai pobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol yn gwybod yn ifanc iawn sut maent yn teimlo. Gall pobl eraill gymryd peth amser i ddarganfod eu rhywioldeb, ac mewn gwirionedd, mae'n weddol gyffredin i bobl gael profiadau neu berthnasau heterorywiol cyn darganfod fod ganddynt ddiddordeb mewn rhai cyfunrywiol.

Bydd yn amyneddgar, gwranda ar dy deimladau dy hunan, a rho sylw i'th awydd rhywiol. Yn y pen draw, byddi di'n gwybod yn union sut wyt ti'n teimlo.

Gall y cyfnod o ddarganfod rhywioldeb fod yn un dryslyd ac yn codi ofn arnat ti, ac efallai y byddi'n teimlo'n unig ac ynysig. Mae rhai pobl yn cael trafferth derbyn eu rhywioldeb, oherwydd gall fod yn wahanol i'r hyn maent yn credu ynddo, neu'n wahanol i'r ffordd y cawsant eu magu. Mae gan bobl barn wahanol ynghylch rhywioldeb - mae rhai'n credu ei fod yn hollol dderbyniol, tra nad yw eraill yn ei dderbyn o gwbl.

Y peth pwysig yw bod yn onest gyda thi dy hunan, ac i gael hyd i gefnogaeth. Weithiau, bydd yn fuddiol trafod dy deimladau gyda chynghorydd neu therapydd.

Fel arall, os wyt ti'n gwybod eisoes fod pobl o'r un rhyw yn ddeniadol i ti, y peth gorau yw cael hyd i bobl galli dreulio amser gyda nhw, a thrafod y sefyllfa'n hollol agored. Mae llawer o grwpiau a digwyddiadau gwahanol ar gyfer lesbiaid, pobl hoyw a deurywiol, yn cael eu hysbysebu mewn cyhoeddiadau amrywiol. Os wyt ti'n teimlo'n ynysig, gall fod yn syniad da ymuno â grwp, mynd i ddigwyddiad cymdeithasol, neu ffonio llinell gymorth a chyngor hoyw/lesbiaidd/deurywiol.