Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol

Mae heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) yn cael eu trosglwyddo rhan amlaf wrth i waed, semen neu hylif o un corff symud mewn i gorff arall.

Mae unrhyw un sy'n cael cyfathrach rywiol mewn perygl o ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol, er gwaethaf hoedran, rhyw, rhywioldeb neu nifer o bartneriaid rhywiol.

Mae STIs amrywiol yn bodoli, a'r math mwyaf difrifol yw HIV sef Human Immuno-Deficiency Virus. Cer at yr adran Gwybodaeth ar STIs am wybodaeth ynghylch y mathau gwahanol o STIs.

Hyd yn oed os wyt ti a'th bartner wedi bod yn ffyddlon i'ch gilydd ers talwm, mae dal yn bosibl i un ohonoch ddatblygu haint sydd wedi bod yn gwsg ers tipyn. Ac, os nad wyt ti a'th bartner wedi bod gyda'ch gilydd ers amser, neu os nad wyt yn sicr ynghylch hanes rhywiol eich gilydd, mae angen i ti wneud yn siwr dy fod yn diogelu dy hunan yn derbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Cer at yr adran ar Atal heintiau i ddysgu mwy.

Mor bell â dy fod yn cael gwybod yn gynnar ynghylch yr haint, mae'n bosibl trin y rhan fwyaf o STIs (ond nid pob un) gyda gwrthfiotigau neu driniaeth syml arall - fodd bynnag, nid yw hyn yn wir gydag STIs megis HIV neu herpes gwenerol. Ac, wrth adael STIs heb eu trin, gall llawer ohonynt fod yn boenus ac yn anghyfforddus, neu ar y gwaethaf, gall achosi difrod parhaol i dy iechyd a'th ffrwythlondeb.

Efallai dy fod yn bryderus dy fod wedi dal Haint a drosglwyddir yn rhywiol, neu dy fod wedi peryglu dy hunan yn y ffordd hyn. Mae llawer o bobl yn awyddus i wybod sut byddan nhw'n gwybod os maen nhw wedi dal STI? Mae'n bwysig bod yn wyliadwrus. Cer at yr adran ar symptomau am fwy o wybodaeth.

Os wyt ti, neu os mae dy bartner, yn sylwi ar rywbeth, neu hyd yn oed os nad oes gen ti unrhyw symptomau, ond rwyt yn pryderu dy fod wedi bod mewn sefyllfa i ddal STI, mae angen cadarnhau hyn. Cer at yr adran pryderus? os am wybod mwy.