Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

medication

Chlamydia

Beth yw chlamydia?

Bacteria yw Chlamydia sy'n gallu effeithio ar yr organau cenhedlu, yr wrethra a'r rectwm mewn dynion a merched, ond gall hefyd effeithio ar y gwddf a'r llygaid.

Sut mae'n cael ei drosglwyddo?

Mae'n cael ei drosglwyddo trwy ryw ddiamddiffyn trwy'r wain, trwy'r geg neu trwy'r anws, wrth rannu teganau rhyw, neu o fam i'w phlentyn wrth ei (g)eni.

Arwyddion a symptomau

Nid oes gan tua 50% o ddynion a 70% o ferched sydd â chlamydia unrhyw symptomau o gwbl. Yn aml, mae'r symptomau'n ysgafn iawn, a dyw'r unigolyn ddim yn sylwi arnynt, ond ymysg yr arwyddion nodweddiadol o chlamydia ymysg dynion a merched mae'r canlynol:

  • rhedlif anarferol o'r pidyn neu'r wain.
  • poen wrth wneud dwr.
  • gwaedu rhwng mislifoedd.
  • poen neu chwydd yn y ceilliau.
  • poen yn ystod rhyw.
  • poen yn isel yn yr abdomen.

Profion a thriniaeth

  • Fel arfer, cymerir swab o'r wain neu o flaen y pidyn, yn ogystal â sampl wrin. Efallai bydd y swab yn anghyfforddus, ond bydd yn gyflym, a ni ddylai fod yn boenus.
  • Gellir trin Clamydia yn rhwydd gyda gwrthfiotigau. Er mwyn osgoi dal yr haint eto, dylai partneriaid rhywiol hefyd dderbyn triniaeth.
  • Os nad yw'n cael ei drin, gall clamydia ledu i organau cenhedlu eraill, ac achosi problemau iechyd difrifol megis haint pelfig llidiol, beichiogrwydd ectopig ac anffrwythlondeb.

© fpa Cedwir Pob Hawl


STIs cyffredin eraill: