Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Gonorrhoea

Beth yw gonorrhoea?

Bacteria yw gonorrhoea sy'n effeithio yn bennaf ar yr organau cenhedlu, yr wrethra, y rectwm a gwddf dynion a merched.

Sut mae'n cael ei drosglwyddo?

Mae'n cael ei drosglwyddo trwy ryw ddiamddiffyn trwy'r wain, trwy'r geg neu trwy'r anws, wrth rannu teganau rhyw, neu o fam i'w phlentyn wrth ei (g)eni.

Arwyddion a symptomau

Nid oes gan tua 10% o ddynion a 50% o ferched sydd â gonorrhoea unrhyw symptomau o gwbl. Gall y symptomau fod yn ysgafn a dyw'r unigolyn ddim yn sylwi arnynt, ond ymysg yr arwyddion nodweddiadol mae'r canlynol:

  • Rhedlif anarferol o'r pidyn neu'r wain, sy'n gallu bod yn denau neu'n ddyfrllyd, neu'n felyn neu'n wyrdd.
  • Poen wrth wneud dwr.
  • Cosi poenus neu redlif o'r anws.
  • Poen yn yr abdomen isel.
  • Poen neu deimlo'n dendar yn y ceilliau.

Profion a thriniaeth

  • Fel arfer, cymerir swab o'r wain neu o flaen y pidyn, yn ogystal â sampl wrin. Efallai bydd y swab yn anghyfforddus, ond ni ddylai fod yn boenus.
  • Gellir trin Gonorrhoea yn rhwydd gyda gwrthfiotigau. Er mwyn osgoi dal yr haint eto, dylai partneriaid rhywiol hefyd dderbyn triniaeth.
  • Os nad yw'n cael ei drin, gall gonorrhoea effeithio ar organau cenhedlu eraill mewn dynion a merched, ac achosi problemau iechyd difrifol megis haint pelfig llidiol neu feichiogrwydd ectopig sy'n gallu effeithio ar ffrwythlondeb.

© fpa Cedwir Pob Hawl


STIs cyffredin eraill: