Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

bad back

Herpes gwenerol

Beth yw herpes gwenerol?

Feirws o'r enw herpes simplex sy'n achosi herpes gwenerol. Mae dau fath o'r feirws sy'n gallu effeithio ar y geg a'r trwyn (yr enw ar y rhain yw crachen annwyd) neu ar yr ardal o gwmpas yr organau cenhedlu a'r anws, y bysedd neu'r dwylo. Mae'r wybodaeth hyn yn ymwneud â herpes gwenerol.

Sut mae'n cael ei drosglwyddo?

Mae'n cael ei drosglwyddo trwy ryw ddiamddiffyn trwy'r wain, trwy'r geg neu trwy'r anws, wrth rannu teganau rhyw, neu drwy gyswllt croen-i-groen gwenerol uniongyrchol.

Arwyddion a symptomau

Yn aml, nid yw'r symptomau yn amlwg neu maent yn ysgafn iawn, ac nid yw'r unigolyn yn sylwi bod rhywbeth o'i le, ond ymysg arwyddion nodweddiadol y feirws mae'r canlynol:

  • Swigod ar neu yn y wain, ceg y groth, wrethra, rectwm, anws neu'r pidyn sy'n gadael briwiau poenus ar ôl iddynt dorri.
  • Teimlad o oglais neu gosi yn yr ardal dan sylw.
  • Symptomau'n debyg i'r ffliw megis chwarennau wedi chwyddo, poen cefn a chur pen.

Profion a thriniaeth

  • Cymerir swab o un o'r briwiau, ac efallai y bydd sampl wrin yn cael ei gymryd hefyd. Efallai bydd y swab yn anghyfforddus, ond ni ddylai fod yn boenus.
  • Heb driniaeth, gall y symptomau parhau am dua 2 - 3 wythnos. Nid yw herpes gwenerol yn achosi problemau iechyd difrifol, ac nid yw'n effeithio ar ffrwythlondeb.
  • Os bydd yr haint yn dod yn ôl, fel arfer mae'r symptomau'n ysgafnach. Mae'r feirws yn aros yn y corff am byth, ac nid yw triniaeth yn cael gwared ag ef yn gyfan gwbl.
  • Mae rhai pobl yn darganfod fod pethau gwahanol yn gallu achosi pwl. Ymysg y rhain mae straen, blinder, salwch, alcohol ac ysmygu. Gall osgoi'r pethau hyn lleihau'r nifer o byliau.

Gellir cael mwy o wybodaeth ynghylch herpes oddi wrth The Herpes Viruses Association ar +44 (0)20 7609 9061, gwefan: www.herpes.org.uk

© fpa Cedwir Pob Hawl


STIs cyffredin eraill: