HIV a chlefyd AIDS
Beth yw HIV?
Human Immunodeficiency Virus yw HIV, ac mae'n effeithio ar ddynion a merched. Mae'r feirws yn niweidio system imiwnedd y corff, a thros gyfnod o amser nid yw'n gallu ymdopi â salwch a heintiau.
Beth yw clefyd AIDS?
HIV sy'n achosi clefyd AIDS. Pan fydd unigolyn wedi dal clefyd AIDS mae'n golygu fod ei system imiwnedd yn wan iawn, a'i b(f)od wedi datblygu heintiau neu ganserau penodol. Gall y rhain fod yn angheuol.
Sut mae'n cael ei drosglwyddo?
Yn bennaf mae HIV yn cael ei drosglwyddo yn y dulliau canlynol:
- Trwy gael rhyw ddiamddiffyn trwy'r wain neu drwy'r anws.
- Trwy rannu nodwyddau neu chwistrellau wrth chwistrellu cyffuriau.
- Gall dynes sy'n disgwyl babi trosglwyddo HIV i'r plentyn wrth ei (g)eni, er mae triniaeth effeithiol iawn ar gael erbyn hyn i helpu atal hyn. Gall HIV hefyd gael ei drosglwyddo wrth roi'r fron.
Arwyddion a symptomau
- Efallai bydd salwch tebyg i'r ffliw yn digwydd yn fuan ar ôl dal HIV, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli eu bod wedi dal yr haint.
- Gall y symptomau amrywio o un i'r llall, ac maent yn digwydd pan fydd y system imiwnedd yn cael ei ddifrodi i'r pwynt fod heintiau eraill yn achosi problemau iechyd.
Profion a thriniaeth
- Yr unig ffordd i unigolyn ddarganfod a yw rhywun wedi dal y feirws ai peidio yw cael prawf HIV.
- Yn dilyn trafodaeth ynglyn â'r prawf a goblygiadau'r canlyniad, bydd angen cymryd sampl gwaed i'w brofi. Mae'n rhaid aros am dri mis ar ôl dyddiad dal yr haint cyn cael y prawf HIV.
- Does dim iachâd ar gyfer HIV. Fodd bynnag, mae cyffuriau ar gael sy'n arafu'r niwed y mae HIV yn gwneud i'r system imiwnedd. Mae pobl sy'n HIV positif yn gallu cadw'n iach am flynyddoedd lawer gyda chyffuriau gwrth-HIV.
Os am dderbyn gwybodaeth ynghylch heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, gellir ffonio llinell gymorth yr fpa ar +44 (0)845 310 1334 neu ymweld â gwefan: www.ssha.info
© fpa Cedwir Pob Hawl

