Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Atal heintiau

Gwisgwch gondom

Defnyddiwch gondom. Gall defnyddio condom yn y ffordd briodol (rhai gwrywaidd a rhai benywaidd) helpu atal unigolyn rhag dal STI.

Mae condomau yn arbennig o dda am atal heintiau sy'n cael eu trosglwyddo trwy ryw dreiddiol trwy'r wain, trwy'r anws neu drwy'r geg (e.e. HIV, chlamydia, gonorrhoea). Fodd bynnag, gyda heintiau megis dafadennau gwenerol, herpes gwenerol a syffilis, mae'n bosibl na fydd condom yn diogelu'r holl rannau perthnasol, ac mae condom ond yn diogelu i raddau yn erbyn heintiau megis y clefyd crafu, llau pwbig a phlâu sy'n cael eu trosglwyddo o ganlyniad i gyswllt croen-i-groen agos.

condomau

Dylech wastad cael cyflenwad o gondomau'n barod. Mae condomau ar gael mewn llawer o lefydd. Gellir eu prynu o fferyllfeydd, modurdai, archfarchnadoedd, peiriannau gwerthu (wedi'u lleoli'n aml iawn mewn toiledau tafarndai a chlybiau), neu drwy'r post. Maent ar gael am ddim o'r Clinig Cynllunio Teuluol a'r Clinig Iechyd Rhywiol.

Mae amrywiaeth fawr o gondomau ar gael, felly dylid dewis math sy'n dy siwtio di. Mae'r ansawdd yn bwysig, felly dylid gwneud yn siwr dy fod yn dewis condomau sydd â nod barcut Y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) neu farc ansawdd Ewropeaidd CE.

Gwell rhwystro'r clwy' na'i wella!
pobol

Gwyboadaeth ar bopeth

Dylid darllen ynghylch sut mae heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn lledu (Adran gwybodaeth ar STIs), y symptomau gwahanol y dylid rhywun gwylio amdanynt, a lle i gael hyd i gymorth os rwyt ti'n bryderus.

Cer am archwiliad

Dylid mynd i glinig iechyd rhywiol am archwiliad rheolaidd - ni fydd yn costio dimau i ti. Os oes gennyt symptomau sydd efallai yn awgrymu haint a drosglwyddir yn rhywiol, dylet ofyn am gyngor cyn cael rhyw eto. Os wyt ti'n credu fod haint arnat ti, dywed wrth dy bartner, i'w (g)alluogi i fynd am archwiliad a chael triniaeth hefyd. Gweler yr adran pryderus? am fwy o wybodaeth.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »