Clefyd crafu a llau pwbig
Beth yw'r clefyd crafu a llau pwbig?
Gwiddon neu lau bach sy'n achosi'r clefyd crafu a llau pwbig. Gyda'r clefyd crafu, gall y widdon fod mewn unrhyw ran o'r corff, ond fe'u gwelir yn aml o dan y croen mewn crychau megis dan y gesail, dan y ffolennau, ar y dwylo a'r arddwrn neu ar yr organau gwenerol.
Mae llau pwbig yn byw mewn gwallt garw ar y corff megis gwallt pwbig, neu'r gwallt ar y frest neu dan y gesail. Weithiau maent yn byw yn yr aeliau neu'r blew amrannau ond nid ar wallt y pen.
Sut maen nhw'n cael eu trosglwyddo?
Trwy gyswllt corfforol gyda chroen y mae'r clefyd crafu yn cael ei drosglwyddo. Gall hefyd gael ei drosglwyddo drwy gael rhyw, ond nid yw hyn mor gyffredin.
Fel arfer mae'r llau pwbig yn cael eu trosglwyddo trwy gyswllt rhywiol. Gellir hefyd eu trosglwyddo trwy gyswllt corfforol agos.
Arwyddion a symptomau
- Mae'r clefyd crafu yn achosi brech sy'n cosi yng nghrychau croen y corff, a gellir hefyd cael smotiau bach gyda hyn.
- Mae'r llau pwbig yn achosi i'r croen gosi, ac mae powdr du yn ymddangos mewn dillad isaf oherwydd tail y llau. Bydd wyau gwyn yn ymddangos ar y gwallt dan sylw.
Profion a thriniaeth
- Mewn achosion o'r clefyd crafu a llau pwbig, bydd y meddyg yn edrych ar y croen, ac efallai y bydd angen cymryd fflochen o groen er mwyn gwneud prawf am widdon neu lau.
- Mae'n rhwydd trin y clefyd crafu a llau pwbig gyda golchdrwyth neu siampw arbennig. Mae'r rhain yn lladd y widdon neu'r llau, a'u hwyau. Er mwyn osgoi dal yr haint eto, dylai cysylltiadau agos neu bartneriaid rhywiol hefyd dderbyn triniaeth.
- Nid yw'r clefyd crafu na'r llau pwbig yn achosi unrhyw broblemau iechyd hir dymor.
© fpa Cedwir Pob Hawl

