Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Symptomau

Ymysg symptomau cyffredin STI, mae:

  • rhedlif neu hylif anghyffredin o'r wain neu'r pidyn
  • poen neu deimlad o losgi wrth wneud dwr
  • cosi, brech, lympiau neu swigod o gwmpas yr organau gwenerol neu'r anws
  • poen a/neu waedu wrth gael rhyw
  • gwaedu ar ôl cael rhyw a/neu rhwng mislifoedd.

Er hynny, gall symptomau amrywio o haint i haint, ac nid oes symptomau o gwbl gyda llawer o STIs. Nid yw'n anghyffredin cael mwy nag un haint ar yr un pryd.

Gellir iachau'r rhan fwyaf o STIs mor bell â'u bod yn cael eu darganfod ddigon cynnar, ac mae'n bosibl efallai mai dim ond cymryd gwrthfiotigau sydd angen. Fodd bynnag, os nad yw'r heintiau hyn yn cael eu trin, gallent fynd yn boenus ac yn anghyfforddus iawn, ac ar y gwaethaf, gallent achosi niwed parhaol i dy iechyd a'th ffrwythlondeb.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

© fpa Cedwir Pob Hawl