Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

medication

Syffilis

Beth yw syffilis?

Bacteria yw syffilis sy'n heintio'r fylfa, yr wrethra neu geg y groth mewn merched, a'r pidyn neu'r blaengroen mewn dynion.

Sut mae'n cael ei drosglwyddo?

Mae'n cael ei drosglwyddo trwy ryw ddiamddiffyn trwy'r wain, trwy'r geg neu trwy'r anws, wrth rannu teganau rhyw, neu drwy gyswllt croen-i-groen gyda rhywun sydd â briwiau neu frechau syffilis, neu o fam i'w phlentyn cyn ei (g)eni.

Arwyddion a symptomau

Weithiau nid yw unigolyn yn sylwi ar y symptomau, ond ymysg arwyddion nodweddiadol syffilis cam-cyntaf mae:

  • Briw neu friwiau di-boen ar neu o fewn ardal wenerol dynion a merched sy'n gallu parhau am dua 3 - 4 wythnos.

Os nad yw'r haint yn cael ei drin, gall syffilis ail-gam ymddangos, ac ymysg y symptomau nodweddiadol mae:

  • Brech ar hyd y corff cyfan neu yma ac acw.
  • Symptomau'n debyg i'r ffliw megis chwarennau wedi chwyddo, blinder, cur pen a dolur gwddf.
  • Tyfiannau gwastad, tebyg i ddafadennau ar yr organau gwenerol.

Profion a thriniaeth

  • Cymerir swab o un o'r briwiau, ynghyd â samplau gwaed ac wrin. Efallai bydd y swab ychydig yn anghyfforddus, ond ni ddylai fod yn boenus.
  • Gellir trin syffilis yn rhwydd gyda gwrthfiotigau. Er mwyn osgoi dal yr haint eto, dylai partneriaid rhywiol dderbyn triniaeth hefyd.
  • Gall menywod sy'n disgwyl babi hefyd dderbyn triniaeth heb beryglu'r plentyn yn y groth.
  • Heb driniaeth, gall syffilis gael canlyniadau difrifol iawn dros gyfnod o amser i organau pwysig y corff, a gall y difrod fod yn angheuol.

© fpa Cedwir Pob Hawl


STIs cyffredin eraill: