Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Trichomonas Vaginalis

Beth yw trichomonas vaginalis?

Haint sy'n cael ei achosi gan barasit microsgopig yn y wain a'r wrethra mewn merched a dynion yw trichomonas vaginalis.

Sut mae'n cael ei drosglwyddo?

Mae'n cael ei drosglwyddo trwy ryw ddiamddiffyn trwy'r wain, trwy'r geg neu drwy'r anws, trwy rannu teganau rhyw, neu o fam i'w phlentyn wrth ei (g)eni.

Arwyddion a symptomau

Weithiau does dim symptomau, neu dyw'r unigolyn ddim yn sylwi arnynt oherwydd eu bod mor ysgafn.

Ymysg arwyddion nodweddiadol yr haint mae'r canlynol:

  • newid yn y rhedlif o'r wain: gall hyn gynyddu, fynd yn deneuach, yn ewynnog neu newid arogl
  • rhedlif o'r pidyn
  • llid neu ddolur neu gosi o fewn ag o gwmpas y wain
  • poen wrth wneud dwr mewn dynion a merched
  • poen wrth gael rhyw.

Profion a thriniaeth

  • Fel arfer cymerir swab o'r wrethra, y wain neu flaen y pidyn. Efallai y bydd hyn ychydig yn anghyfforddus, ond mae'n gyflym a ni ddylai fod yn boenus.
  • Efallai bydd angen sampl wrin.
  • Mae'n rhwydd trin trichomonas vaginalis gyda gwrthfiotigau. Er mwyn osgoi dal yr haint eto, dylai partneriaid rhywiol hefyd dderbyn triniaeth.
  • Heb driniaeth, nid yw'n achosi problemau iechyd difrifol.

© fpa Cedwir Pob Hawl


STIs cyffredin eraill: