Dafadennau gwenerol
Beth yw dafadennau gwenerol?
Feirws o'r enw human papilloma virus (HPV) sy'n achosi dafadennau gwenerol. Gall y feirws hwn effeithio ar ddwylo, traed a'r ardal wenerol. Dyma ychydig o wybodaeth ynghylch dafadennau gwenerol.
Sut maen nhw'n cael eu trosglwyddo?
Mae dafadennau gwenerol yn cael eu trosglwyddo trwy ryw ddiamddiffyn trwy'r wain neu trwy'r anws, wrth rannu teganau rhyw, neu drwy gyswllt croen-i-groen gwenerol uniongyrchol.
Arwyddion a symptomau
Nid pawb sydd â'r feirws sy'n datblygu dafadennau y gellir eu gweld. Pan fydd dafadennau yn bresennol, maent fel arfer yn ddi-boen, ond gallent achosi peth llid.
- Gall y dafadennau fod yn wastad, yn llyfn, yn dwmpau bach neu'n rhai mwy yn debyg i flodfresychen, yn rhai unigol neu mewn grwpiau.
- Mewn dynion, gallent ymddangos unrhyw le o gwmpas yr wrethra, y pidyn, y sgrotwm neu'r anws. Gallent hefyd ddigwydd tu fewn i'r anws.
- Mewn merched, maent yn gallu ymddangos unrhyw le o gwmpas y fylfa a'r anws, a hefyd tu fewn i'r wain neu'r anws, neu ar geg y groth.
Profion a thriniaeth
- Fel arfer, gellir gweld y dafadennau gyda'r llygad noeth. Os mae rhywun yn amau fod dafadennau arno/arni ond nid ydynt yn amlwg, defnyddir paent arbennig i'w gwneud yn fwy gweladwy.
- Mae'n hawdd trin y dafadennau, ond efallai y bydd angen mwy nag un sesiwn o driniaeth.
- Gall y driniaeth olygu gorchuddio'r dafadennau gyda golchdrwyth neu hylif cemegol, eu rhewi i ffwrdd, neu ddefnyddio triniaeth neu lawdriniaeth laser i gael gwared â nhw.
- Nid yw dafadennau gwenerol yn achosi problemau iechyd difrifol, ond mae'r feirws yn aros yn y corff. Does yna'r un driniaeth sy'n cael gwared â'r feirws yn gyfan gwbl.
- Mae rhai mathau o'r feirws dafadennau yn gysylltiedig â newidiadau yn y celloedd cerfigol, sy'n gallu arwain at ganser cerfigol. Gall y newidiadau hyn gymryd llawer o flynyddoedd, felly mae'n bwysig i ferched gael profion rhwbiad o'r groth yn rheolaidd, os ydynt wedi cael dafadennau gwenerol ai peidio.
- PWYSIG: ni ddylai unrhyw un drin dafadennau gwenerol ei hunan gyda meddyginiaethau y gellir eu prynu mewn siopau.
© fpa Cedwir Pob Hawl

