Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Pryderus?

Os wyt ti'n credu fod haint arnat ti, dylet fynd i weld y meddyg, neu i glinig GUM (clinig Genito-Urinary Medicine) [sydd yn y rhan fwyaf o ysbytai mawr] lle gellir trefnu archwiliad a thriniaeth (os oes angen) am ddim. Cofia - mae pob clinig GUM yn cadw'r holl wybodaeth yn gyfrinachol. Oni bai dy fod yn rhoi caniatâd, nid fydd y meddyg teulu yn cael gwybod dy fod wedi ymweld ag un o'r clinigau hyn ar gyfer prawf neu driniaeth.

Beth yw clinig GUM?

Os ydych chi'n meddwl y gallai fod gennych haint a drosglwyddir drwy ryw (STI), gallwch fynd i drafod y peth â'ch meddyg. Fodd bynnag, os bydd haint yn cael ei adnabod, neu ei amau, efallai y bydd gofyn i chi weld arbenigwr yn yr adran Meddygaeth Genhedlol-Droethol (clinig GUM) am archwiliad pellach.

Caiff clinigau GUM hefyd eu galw'n:

  • Clinigau STD (afiechydon a drosglwyddir drwy ryw)
  • Clinigau arbennig
  • Clinigau VD (clwyf gwenerol)
  • Clinigau clap

Dim ond clinigau GUM sy'n cofnodi ystadegau rheolaidd am STIs, gyda dros hanner miliwn o achosion yn cael eu diagnosio ledled y wlad bob blwyddyn, gan eu gwneud yn wasanaeth hanfodol wrth reoli lledaeniad heintiau rhwyiol. Bellach, mae tua 230 o glinigau yn y DU, yn cynnig gwasanaethau a thriniaeth am ddim ac yn gyfrinachol ar gyfer pob haint a drosglwyddir drwy ryw (STIs), gan gynnwys HIV. Bydd profiad o amrediad ac ansawdd y gwasanaethau'n amrywio'n fawr ar draws y wlad.

Allwch chi fynd yno heb apwyntiad?

Efallai y byddai'n syniad ffonio'r clinig yn gyntaf, i weld a allwch chi fynd yno heb apwyntiad. Mae nifer o glinigau yn cynnig gwasanaeth 'galw i mewn', ond bydd yn golygu y bydd rhaid i chi aros am yr apwyntiad gwag nesaf.

Beth fydd angen i chi ei wneud?

Wrth gyrraedd y clinig, bydd gofyn i chi gofrestru, gan roi cymaint neu cyn lleied o wybodaeth ag y dymunwch, gan wybod y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu'n llwyr. Mae cyfreithiau arbennig yn bodoli i warchod gwybodaeth bersonol sy'n cael ei dal am ddefnyddwyr clinigau GUM. Os ydych chi'n defnyddio gwybodaeth ffug, mae'n bwysig defnyddio'r un manylion ar ymweliadau yn y dyfodol. Bydd pob person sy'n ymweld â'r clinig yn cael ei gerdyn neu ei cherdyn ei hun a rhif clinig arno, y dylech fynd ag ef ar bob ymweliad. Mewn rhai clinigau fallai y bydd yn bosibl gofyn i gael gweld rhywun o ryw penodol.

A doctor

Beth bydd y meddyg yn ei ofyn i chi?

Bydd y meddyg yn gofyn ambell gwestiwn i chi, i gael gwell dealltwriaeth o'ch 'hanes rhywiol' er mwyn ei helpu i benderfynu pa archwiliadau y dylid eu gwneud (os dylid gwneud rhai o gwbl).

Gallai'r cwestiynau gynnwys:

  • Am beth rydych chi'n poeni?
  • Faint o bobl rydych chi wedi cael cyfathrach rywiol â nhw yn ddiweddar?
  • Pa fath o gyfathrach oedd hi? Oedd eich partneriaid yn ddynion neu'n ferched?
  • Ydych chi wedi cael unrhyw afiechyd a drosglwyddir drwy ryw (STD) yn y gorffennol?
  • Ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaeth?
  • Ydych chi'n dioddef gan unrhyw alergedd?

Pa archwiliadau/profion byddan nhw'n eu gwneud?

Bydd y rhain yn amrywio yn ôl rhyw y person a'r arfer rhywiol a nodir, felly mae'n bwysig eich bod yn ateb yn onest i wneud yn siwr na chaiff unrhyw beth ei anwybyddu. Os nad ydych yn siwr pam y gofynnir am wybodaeth benodol, neu nad ydych yn deall yr hyn maent yn ei ofyn,peidiwch ag ofni gofyn iddynt ei esbonio'n gliriach.

Mae staff yn y clinig yn sylweddoli bod rhai pobl sy'n mynd i'r clinig yn teimlo embaras neu ofn am y cwestiynau neu'r archwiliad. Peidiwch â gadael i unrhyw un godi braw arnoch na theimlo na ddylech gwyno os ydych yn anfodlon â'r gwasanaeth.

Gallai'r profion gynnwys:

  • Prawf wrin (mae'n well peidio â mynd i'r toiled am 2 awr cyn y prawf)
  • Rhwbiad o'r groth
  • Swab o'ch wrethra (tiwb y mae'r wrin yn dod allan ohono), eich fagina, ceg eich croth, eich gwddf neu'ch rectwm (twll y pen ôl)
  • Profion gwaed ar gyfer syffilis
  • Dim ond gyda chaniatâd y person y bydd profion HIV yn cael eu gwneud ac nid ydynt yn cael eu gwneud fel mater o drefn.

Pryd byddwch chi'n gwybod y canlyniadau?

Weithiau mae'n bosibl dweud ar unwaith a oes heintiad drwy archwiliad uniongyrchol â'r llygaid a defnyddio microsgop. Efallai y bydd angen anfon profion eraill i labordy ac fe allai gymryd ychydig ddyddiau i'r canlyniadau ddod yn ôl. Efallai y bydd gofyn i chi fynd yn ôl i'r clinig am brofion pellach, ar ddiwedd cyfnod penodol o amser cyn y gellir gwneud diagnosis llawn. Er enghraifft, gall HIV a syffilis gymryd hyd at 3 mis i ymddangos mewn prawf gwaed. Dylech gael esboniad llawn o ganlyniadau'r profion a chael unrhyw daflenni perthnasol i gefnogi unrhyw gyngor a roddwyd yn barod.

Sian and David

Pa driniaeth byddwch chi'n ei chael?

Mae triniaeth yn cael ei rhoi am ddim ac yn aml yn cael ei rhoi ar unwaith. Dylid cymryd cwrs llawn o antibiotigau, hyd yn oed os bydd y symptomau'n clirio hanner ffordd drwy'r cwrs.

Oes rhywun y gallwch chi siarad â nhw?

Mae gan y rhan fwyaf o glinigau gynghorwr iechyd a all dreulio amser gyda chi, i'ch helpu i ddeall yn union beth sy'n digwydd, neu i'ch cynghori am beth i'w wneud ynghylch eich cariad presennol. Efallai y bydd angen iddynt gael eu harchwilio hefyd. Efallai y byddant yn gofyn i chi am fanylion am bartneriaid er mwyn ceisio rheoli lledaeniad y heintiad, ond, nid oes rhaid i chi roi'r wybodaeth hon. Efallai y byddai'n well gennych, fodd bynnag, iddyn nhw gymryd y cyfrifoldeb o gysylltu â phartneriaid, gan y gallwch sicrhau y byddant yn gwneud hynny â thact a doethineb, heb ddatgelu pwy ydych chi.

Am ragor o wybodaeth am eich clinig GUM agosaf, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47.

Unrhyw amheuon, cer am gyngor!

Ailgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom