Ysgogi a symbylu
Cychwyn ar fod yn heini
Cofiwch:
Does dim rhaid i chi fod yn heini i gychwyn
Y peth pwysicaf yw cynyddu'ch lefelau gweithgarwch yn raddol. Byddwch yn sylwi ar wahaniaeth yn y ffordd rydych yn teimlo cyn pen dim.
Does dim rhaid i chi fynd o'r tþ i wneud ymarfer c wneud ymarfer corff
Mae digonedd o weithgareddau i'w gwneud y tu mewn a'r tu allan i'ch cartref a allai fod yn gyfle i ymarfer.
Does dim rhaid i chi bennu llawer o amser ar gyfer ymarfer
Gallwch gynnwys gweithgareddau yn eich amserlen ddyddiol yn rhwydd, hyd yn oed os ydych yn gweithio. Gallwch gerdded, beicio neu loncian yn hytrach na mynd yn eich car; gall ymweliad byr â'r pwll nofio yn ystod amser cinio neu ar ôl gwaith fod yn ffordd dda o ymarfer ac ymlacio.
Does dim rhaid i chi fod yn ifanc
Dydy hi byth yn rhy hwyr i chi gychwyn ar weithgaredd newydd. Gall gweithgareddau corfforol fod yn hynod o fanteisiol i bobl hyn, ac yn aml bydd ganddyn nhw'r amser a'r rhyddid i ddilyn nifer o ddiddordebau.
Fodd bynnag, os ydych chi wedi dioddef gan:
- Drafferthion gyda'ch calon
- Pwysedd gwaed uchel
- Poenau anesboniadwy yn eich brest
- Bod yn benysgafn neu lewygu
- Problem gyda'ch esgyrn neu'ch cymalau allai waethygu wrth ymarfer.
Dylech siarad â'ch meddyg cyn cychwyn unrhyw ymarfer.
Y tri ffactor derfynol
Dylai ffitrwydd cyffredinol gynnwys tri ffactor:
- stamina - sy'n helpu cadw'ch calon a'ch ysgyfaint yn iach
- cryfder
- gallu ymestyn - i'ch cadw'n ystwyth a'ch galluogi i symud yn rhwydd.
Ymarfer corff
Mae pob math o ymarfer yn llesol i'ch corff, ond yr ymarferion gorau ar gyfer eich calon yw'r rhai sy'n adeiladu ar eich stamina. Ymarfer sy'n cynyddu'ch stamina yw unrhyw ymarfer lle byddwch yn ymdrechu'n gorfforol yn gyson am gyfnod. Gallai hyn gynnwys cerdded yn gyflym neu loncian, nofio neu feicio ar gyflymder cymedrol, neu ymarfer corff erobig.
Gall fod yn anodd ar ddiwedd diwrnod hir - ond yn hytrach nag eistedd o flaen y teledu, ewch i wneud ymarfer corff. Byddwch yn synnu mor effro fyddwch chi'n teimlo, a chymaint mwy o egni sydd gennych. Mae unrhyw beth sy'n gwneud i chi anadlu'n gyflymach ac i'ch calon guro'n gyflymach yn llesol i chi.
Gall hyn gynnwys:
- Pêl-droed
- Tenis
- Nofio
- Erobeg
- Beicio
- Golff
- Gweithgareddau DIY trwm
- Gwaith ty caled
- Cerdded yn gyflym (nid mynd am dro hamddenol)
- Dawnsio (pob math)
Y Brif Reol
Prif reol ymarfer corff yw cychwyn yn araf, cynyddu'n raddol a gwneud hynny'n rheolaidd. I fod yn effeithiol, mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn argymell dau neu dri sesiwn yr wythnos yn para o leiaf 20 munud yr un. Mae amrywio'ch gweithgareddau'n helpu'ch cymell ac yn golygu y bydd ymarfer corff yn fwy o hwyl. Felly, beth am edrych ar amserlen eich canolfan chwaraeon neu glwb ffitrwydd lleol. Mae'r staff wedi'u hyfforddi i'ch helpu i ddatblygu rhaglen ffitrwydd, a fydd yn gweddu eich gallu.
Chwaraeon
Yr hen esgus yw, "Byddwn i wrth fy modd, ond does gen i mo'r amser". Mae'n esgus cyffredin y bydd pawb yn ei ddefnyddio. Ond dim ond un ateb sydd: gwnewch amser!
Dylai ymarfer fod yn rhywbeth rydych yn ei fwynhau er mwyn dod yn rhan reolaidd o'ch bywyd - fel brwsio'ch dannedd.
Cyn pen dim, bydd gennych fwy o egni, a fydd yn eich galluogi i gyflawni pethau'n gyflymach ac yn fwy effeithlon - a fydd yn y pen draw yn rhoi mwy o amser hamdden i chi. Mae ymaelodi â dosbarth neu gychwyn gwneud chwaraeon gyda ffrind yn golygu y gallwch annog eich gilydd, ac mae'n fwy o hwyl.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Ailgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

