Egni a ffitrwydd
Beth mae bod yn heini'n ei olygu?
Does dim rhaid i chi fod yn athletwr i fod yn heini, oherwydd dylai'ch lefel ffitrwydd gyd-fynd â'ch ffordd o fyw. Dylai fod gennych ddigonedd o egni i ddringo grisiau neu fynd am dro cyflym, yn ogystal â chyflawni tasgau beunyddiol eraill heb flino na cholli'ch gwynt. Mae bod yn heini nid yn unig yn gwneud i chi edrych a theimlo'n well, ond mae'n llesol iawn i'ch iechyd:
- Mae'n cryfhau'ch calon ac yn gwella cylchrediad eich gwaed
- Gall hefyd helpu gostwng eich pwysedd gwaed a lefelau colesterol y gwaed
- Mae'n rheoli'ch pwysau ac yn gostwng eich lefelau tyndra
- Mae'n lleihau'r perygl o ddioddef clefyd y galon a strôc
- Mae'n lleihau perygl osteoperosis (esgyrn brau)
Hefyd, bydd gennych:
- Fwy o egni
- Gwell stamina
- Cyhyrau cryfach a mwy siapus
- Byddwch yn sefyll yn well
- Mwy o hunan-hyder
- Gwell siâp ac ymddangosiad
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Ailgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

