Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

cerdded

Syniadau ar gadw'n ffit

Awgrymiadau defnyddiol am wneud ymarfer corf:

  • Ceisiwch gynnwys rhywfaint o ymarfer corff yn eich amserlen ddyddiol. Beth am ddod oddi ar y bws ychydig ynghynt a cherdded weddill y ffordd?
  • Defnyddiwch y grisiau yn hytrach na'r lifft, a pheidiwch â defnyddio'r car ar gyfer teithiau byr - mwynhewch gerdded!
  • Cofiwch gychwyn yn araf a chynyddu'n raddol
  • Gwnewch ymarfer corff nes byddwch ychydig yn flinedig, ond peidiwch â gor-wneud pethau. Bydd y lefel gywir yn eich gwneud ychydig yn fyr eich gwynt ond ddim fel na allwch siarad
  • Dylech gynhesu'ch corff bob amser cyn cychwyn ymarfer corff i baratoi'ch cyhyrau, a dylech gynnwys rhai ymarferion ymestyn
  • Dylech arafu'ch sesiwn ymarfer cyn gorffen. Peidiwch â rhoi'r gorau iddi'n syth ar ôl ymarfer corff caled. Arafwch eich gweithgaredd i lefel gyfforddus am ychydig funudau ar ddiwedd pob sesiwn.
  • Arafwch am awr ar ôl bwyta pryd mawr cyn cychwyn ymarfer corff
  • Peidiwch ag anwybyddu poen - eich corff sy'n dweud wrthych am roi'r gorau iddi!
  • Symudiadau rhwydd, rhythmig sydd orau - beicio, nofio a cherdded yw'r ffyrdd gorau o ymarfer pob rhan o'r corff.
drinks and ashtray

Ffyrdd eraill i wella'ch iechyd a'ch ffitrwydd:

  • Bwyta'n iach - dylech fwyta amrywiaeth o fwydydd o'r 5 grwp bwyd sylfaenol bob dydd. Bwytewch lai o fraster, colesterol, siwgr a halen. Yfwch ddigonedd o hylif, er enghraifft, dwr.
  • Peidiwch ag ysmygu a chadwch lygad ar yr alcohol. Os ydych yn ysmygu neu os oes gennych broblemau alcohol, gofynnwch i'ch meddyg eich cyfeirio at ffynonellau help.
  • Llai o dyndra. Cymerwch seibiant byr. Gwnewch rywbeth bob dydd sy'n eich helpu i ymlacio.
  • Cofiwch gael digon o orffwys.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Ailgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom