Esgusodion, esgusodion
Dyma rai o'r esgusodion a glywn:
"Rydw i wedi blino gormod ar ôl dod adref o'r gwaith"
Efallai y bydd yn syndod i chi glywed y gall bod yn fwy gweithgar roi mwy o egni i chi. Rhowch gynnig ar gerdded neu feicio i'r gwaith i weld a fyddwch yn dal i flino'r un fath.
"Does gen i mo'r amser"
Does dim rhaid i chi dreulio oriau yn y gampfa. Mae cynnwys gweithgarwch yn eich bywyd trwy gerdded neu feicio i ble bynnag fod yn llawn manteision.
"Rydw i'n gwneud digon o ymarfer corff yn barod"
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn goramcangyfrif faint o ymarfer corff maent yn ei wneud, ac fe allai fod yn fanteisiol iddyn nhw wneud mwy. Edrychwch ar wythnos gyffredin. Pa mor aml allwch chi ddweud eich bod yn gwneud digon o ymarfer corff, i deimlo'n gynnes a mymryn yn fyr eich gwynt?
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Ailgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

