Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Tanwydd Bywyd

Mae bwyd a bwyta'n elfennau pwysig o'n bywydau. Mae pawb yn amrywio o safbwynt bwydydd maent yn eu hoffi, faint o fwyd sydd ei angen arnom, a phryd rydym yn hoffi bwyta. Mae bwyd yn un o hanfodion iechyd a datblygiad.

Mae'r bwyd sy'n cael ei fwyta'n cael ei droi'n egni sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau dyddiol. Felly, er mwyn cadw pwysau iach, mae angen cydbwyso faint o fwyd rydym yn ei fwyta gyda faint o egni rydym ei angen yn ystod ein gweithgareddau dyddiol - mae angen Cydbwysedd Egni Bwyd.

Nid yw unrhyw fwyd unigol yn iach ar ei ben ei hunan, felly mae hefyd yn bwysig sicrhau ein bod yn Bwyta Diet Cytbwys ac yn cael digon o'r Fitaminau a'r Mwynau cywir.

Os ydych yn pryderu ynghylch eich pwysau, ewch at yr adrannau Ydy'ch Pwysau chi'n Iach? a Syniadau ar Golli Pwysau am fwy o wybodaeth. Er nad yw'n anghyffredin arbrofi gydag arferion bwyta gwahanol (e.e. newid eich diet er mwyn gwella'ch iechyd), gall rhai arferion bwyta wneud niwed - gweler yr adran ar Anhwylderau Bwyta am fwy o wybodaeth.