Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Bwyta Diet Cytbwys

Nid yw unrhyw fwyd unigol yn iach ar ei ben ei hunan - amrywiaeth sy'n bwysig. Wrth fwyta diet cytbwys gellir bwyta unrhyw fwyd - y cydbwysedd sy'n bwysig. Nid yw bwyta'n iach yn golygu rhoi'r gorau i'r hoff fwydydd - mae'n golygu bwyta'r bwydydd iawn (a'r meintiau cywir ohonynt) er mwyn gallu mwynhau iechyd da.

Trwy fwyta diet cytbwys iachus, a gwneud gweithgaredd corfforol pleserus yn rheolaidd, bydd eich pwysau'n aros yn iach, a gall hefyd helpu atal salwch difrifol megis canser a chlefyd y galon nes ymlaen yn eich bywyd.

Mae diet iachus yn golygu bwyta cymysgedd cytbwys o fwydydd amrywiol:

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »